-
Rhyddfrydiaeth Glasurol
Rhyddfrydiaeth Glasurol yw’r hynaf o'r ddwy ffrwd. Erbyn dechrau’r cyfnod diwydiannol yn ystod degawdau cyntaf y 19eg ganrif, roedd gan Ryddfrydiaeth Glasurol gefnogaeth eang iawn, yn enwedig ar draws y byd Eingl-Seisnig. Yn wir, o ganlyniad i'r ffaith bod y 19eg ganrif yn cael ei hystyried fel oes aur i'r ffrwd hon o ryddfrydiaeth cyfeirir ati weithiau fel 'Rhyddfrydiaeth y 19eg ganrif '.
Mae dadleuon rhyddfrydiaeth glasurol wedi eu cyflwyno mewn sawl gwahanol ffordd dros y blynyddoedd. Ond maent yn tueddu i bwysleisio'r canlynol:
- • Unigolyddiaeth haniaethol: Mae'r pwyslais rhyddfrydol ar yr unigolyn yn amlwg iawn yn syniadau rhyddfrydiaeth glasurol. Unigolyddiaeth eithafol yw hon. Edrychir ar gymdeithas fel dim mwy na chasgliad o unigolion sy’n ceisio gofalu am eu hanghenion a’u dymuniadau gwahanol. Maent yn credu bod pobl yn annibynnol ac yn gallu edrych ar ôl eu hunain. Ac nid oes gan yr unigolyn unrhyw gyfrifoldeb tuag at unigolion eraill neu at y gymdeithas yn gyffredinol.
- • Rhyddid negyddol: Mae safbwynt Rhyddfrydwyr Clasurol o natur cymdeithas – hynny yw, casgliad o unigolion annibynnol – yn dylanwadu ar sut y maent yn ystyried rhyddid. Mae eu safbwynt wedi cael ei ddisgrifio fel un negyddol. Credant y bydd yr unigolyn yn rhydd os yw’n cael llonydd i fyw ei fywyd heb ymyrraeth, a’i fod yn medru ymddwyn mewn unrhyw ffordd y mae ef neu hi yn credu ei fod yn dderbyniol (gan barchu'r gyfraith, wrth gwrs). Disgrifir hwn fel safbwynt negyddol oherwydd ei fod yn credu y dylid gwneud i ffwrdd ag unrhyw beth sy’n rhwystro’r unigolyn rhag gwneud gwahanol dasgau.
- • Gwladwriaeth gyfyngedig: Mae'r syniad o ryddid negyddol, yn ei dro, yn dylanwadu ar syniadau'r Rhyddfrydwyr Clasurol ynglŷn â rôl y wladwriaeth. Roedd teimladau’r Rhyddfrydwyr Clasurol tuag at y wladwriaeth i’w gweld yng ngeiriau Tom Paine a’i disgrifiodd fel ‘a necessary evil’ – rhywbeth angenrheidiol, ond eto nid yn rhywbeth i’w ganmol. Ar un llaw, mae'r wladwriaeth yn angenrheidiol gan ei bod yn cadw trefn ac felly yn rhwystro gwrthdaro rhwng unigolion. Byddai cymdeithas drefnus yn amhosib heb reolau – byddai rhyddid negyddol pur yn golygu ansefydlogrwydd parhaol wrth i unigolion wrthdaro â’i gilydd. Ond ar y llaw arall, mae Rhyddfrydwyr Clasurol yn dweud na ddylid dathlu a chanmol y wladwriaeth, gan ei bod yn siŵr o arwain at gyfyngu llawer ar ryddid pob unigolyn. Felly, er mwyn cadw cymaint â phosib at y syniad o ryddid negyddol, mae Rhyddfrydwyr Clasurol yn credu y dylid cyfyngu llawer ar y wladwriaeth. A siarad yn gyffredinol, ni ddylid gadael i'r wladwriaeth wneud dim mwy na'r hyn sy'n rhaid er mwyn cadw cyfraith a threfn a diogelu unigolion a’u heiddo. Dylai pob cyfrifoldeb arall fod yn nwylo’r unigolion annibynnol sy'n byw yn y gymdeithas. Golyga hyn nad yw Rhyddfrydwyr Clasurol yn credu yn y syniad o’r wladwriaeth yn ymyrryd mewn polisïau cymdeithasol neu economaidd pwysig, fel addysg, iechyd neu gyflogaeth.
Fel y nodwyd uchod, hanner cyntaf y 19eg ganrif oedd oes aur y ffrwd hon o ryddfrydiaeth. Yn ystod y cyfnod hwn, daeth yn syniad gwleidyddol poblogaidd iawn. Roedd datblygiad y gymdeithas gyfalafol fodern yn gwneud i bobl deimlo bod ganddyn nhw gyfle i reoli eu bywydau. Er enghraifft, roedd cymdeithas yn awr yn fwy symudol a’i strwythur yn newid. Felly, gellir deall pam bod syniadau gwleidyddol a oedd yn cyfyngu ar ymyrraeth y wladwriaeth ac yn rhoi pwyslais ar ryddid yr unigolyn, yn boblogaidd iawn mewn rhai cylchoedd.
Fodd bynnag, nid corff o syniadau gwleidyddol sy'n perthyn i'r 19eg ganrif ac sydd bellach o ddiddordeb hanesyddol yn unig yw Rhyddfrydiaeth Glasurol. Tra bod y ffrwd hon o ryddfrydiaeth yn llawer llai poblogaidd erbyn dechrau'r 20fed ganrif, gwelwyd llawer o'r dadleuon a'r egwyddorion yn cael cefnogaeth newydd o tua'r 1970au ymlaen. Roedd gwaith ffigurau fel Friedreich von Hayek, Ayn Rand a Robert Nozick yn cefnogi ffurf fodern ar ryddfrydiaeth glasurol. Unwaith eto, yn y byd Eingl-Seisnig, yn enwedig yn yr Unol Daleithiau a'r Deyrnas Unedig y dechreuodd y syniadau neo-ryddfrydol hyn – yn enwedig yn ystod cyfnod Ronald Reagan yn yr Unol Daleithiau a Margaret Thatcher ym Mhrydain yn ystod yr 1980au. Fodd bynnag, yn dilyn globaleiddio economaidd, fe'u gwelwyd yn lledu dros weddill y byd erbyn cychwyn yr 21ain ganrif. Yn aml iawn, yr enw ar y ffrwd mwy diweddar yma o feddwl yw ‘libertariaeth’, yn enwedig yn ystod y trafod rhwng pobl megis Nozick a rhyddfrydwr egalitaraidd megis John Rawls. Ond, erbyn heddiw mae’r term ‘neo-ryddfrydiaeth’ yn un poblogaidd iawn i ddisgrifio ideoleg Reagan a Thatcher. Mae wedi datblygu gan roi pwyslais nid yn unig ar bolisiau economaidd sy’n gwrthwynebu ymyrraeth y wladwriaeth ac sy’n rhoi pwyslais ar y farchnad, ond sydd hefyd yn rhoi llawer o werth ar unigolyddiaeth, cyfoeth a chystadleuaeth o fewn sectorau cyhoeddus megis iechyd. Am y rhesymau hyn, gellir cysylltu neo-ryddfrydiaeth gyda’r traddodiad ceidwadol (trafodwn y cysylltiadau ymhellach yn yr uned ar Geidwadaeth).
-
-
Rhyddfrydiaeth Fodern
Erbyn yr 1880au, roedd rhai rhyddfrydwyr yn dymuno newid cyfeiriad gan edrych eto ar rai o ddadleuon Rhyddfrydiaeth Glasurol. Y cefndir i hyn oedd datblygiad pellach cyfalafiaeth ddiwydiannol yn ystod ail hanner y 19eg ganrif. Roedd rhai mewn cymdeithas wedi llwyddo i ddod yn gyfoethog o ganlyniad i'r Chwyldro Diwydiannol. Ar yr un pryd, roedd problemau cymdeithasol difrifol. Gwelwyd tlodi, afiechydon, diffyg addysg ac amodau gwaith anodd. Oherwydd y problemau hyn, roedd nifer o ryddfrydwyr yn ei chael yn anodd amddiffyn rhai o’r syniadau clasurol. Dechreuont holi a ddylai'r wladwriaeth ymyrryd mewn meysydd fel addysg, amodau gwaith a gofal iechyd er mwyn helpu unigolion. Yn ychwanegu at y drafodaeth hon oedd y syniadau sosialaidd a’r cysylltiad rhwng gwleidyddiaeth a’r problemau cymdeithasol ac economaidd.
Yn y diwedd, arweiniodd hyn at ffrwd newydd o ryddfrydiaeth – Rhyddfrydiaeth Fodern. Cysylltir y datblygiad hwn yn aml â gwaith pobl fel T.H. Green, L.T. Hobhouse a J.A. Hobson rhwng 1880au a'r 1920au. Yn wir, byddai’r ffrwd hon o ryddfrydiaeth yn datblygu i fod yn un arbennig o bwysig yn ystod yr 20fed ganrif, gan ddylanwadu’n fawr ar bolisïau cymdeithasol ac economaidd mwyafrif gwledydd y gorllewin. Tra bod ei dylanwad wedi lleihau yn ystod y degawdau diwethaf, oherwydd bod syniadau neo-ryddfrydol wedi dod yn fwy poblogaidd ers yr 1970au, mae Rhyddfrydiaeth Fodern yn parhau yn ffrwd bwysig o feddwl o fewn y traddodiad rhyddfrydol. Yn gyffredinol, mae’r Rhyddfrydwyr Modern yn pwysleisio'r canlynol:
- • Unigolyddiaeth: Mae Rhyddfrydwyr Modern yn edrych ar unigolyddiaeth mewn ffordd wahanol iawn i Ryddfrydwyr Clasurol. Mae unigolyddiaeth gymdeithasol y Rhyddfrydwyr Modern yn parhau i bwysleisio'r unigolyn. Ond, mae’r unigolyddiaeth yma hefyd yn ystyried y cysylltiad rhwng pobl ac unedau ehangach, fel y teulu, y gymdeithas a hyd yn oed y genedl. Er enghraifft, dywedodd T.H. Green bod cymdeithas a'r cyfeillgarwch a’r ddibyniaeth sy'n medru datblygu o ganlyniad, yn bwysig iawn er mwyn i unigolion gael y cyfle i ddarganfod eu gwir gymeriad a chyrraedd eu potensial.
- • Rhyddid cadarnhaol: Mae Rhyddfrydwyr Modern hefyd wedi rhoi ystyr arall i ryddid. Maen nhw’n credu bod rhyddid yn gofyn am lawer mwy na dim ond gweithredu negyddol sy'n golygu gwneud i ffwrdd â rhwystrau gan adael llonydd i’r unigolyn. Maen nhw’n credu bod gwir ryddid yn galw am roi cyfle teg i'r unigolyn i ddatblygu ei allu a'i ddealltwriaeth o'r byd o'i gwmpas er mwyn cyrraedd ei botensial fel person. Er mwyn creu amodau o'r fath, bydd angen cymryd camau cadarnhaol er mwyn sicrhau bod yr unigolyn yn cael cyfleoedd cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol a fydd yn medru gwneud iddo fod yn berson annibynnol.
- • Gwladwriaeth ymyraethol: Yn ogystal ag ystyr arall i ryddid, mae Rhyddfrydwyr Modern hefyd yn edrych yn wahanol ar rôl y wladwriaeth. Credant nad yw’n bosib i bob unigolyn gael y rhyddid i ddatblygu a chyrraedd ei botensial os yw’r wladwriaeth yn gyfyngedig iawn ac ond yn canolbwyntio ar gadw'r heddwch. O ganlyniad, mae Rhyddfrydwyr Modern o blaid gwladwriaeth sy'n ymyrryd mewn meysydd cymdeithasol (e.e. maes addysg a iechyd) a hefyd ymyrryd yn yr economi (e.e. trwy gynlluniau creu gwaith) er mwyn gwella sefyllfa unigolion a chydraddoldeb cymdeithasol. Bydd hyn wedyn yn rhoi rhyddid i aelodau cymdeithas i fyw bywydau annibynnol.
Rhyddfrydiaeth Glasurol
Rhyddfrydiaeth Fodern
Unigolyddiaeth haniaethol
Unigolyddiaeth gymdeithasol
Rhyddid negyddol
Rhyddid cadarnhaol
Gwladwriaeth gyfyngedig
Gwladwriaeth ymyrraethol
Hawliau negyddol
Hawliau cadarnhaol
Economi laissez fire
Rheolaeth economaidd
Fel ymron pob ideoleg wleidyddol arall, nid un corff taclus o syniadau oedd rhyddfrydiaeth. Felly, tra bod rhai wedi ceisio dadlau mai un athrawiaeth bur ydyw rhyddfrydiaeth, mae’r mwyafrif yn credu mewn nifer o ffrydiau rhyddfrydol. Y mwyaf amlwg yw Rhyddfrydiaeth Glasurol a Rhyddfrydiaeth Fodern. Fel y gwelir isod mae'r ddwy ffrwd hyn yn rhannu'r un prif egwyddorion rhyddfrydol, fel unigolyddiaeth a rhyddid. Fodd bynnag, dros y blynyddoedd mae’r rhai sy'n perthyn i'r ddwy ffrwd wahanol wedi edrych ar yr egwyddorion hyn mewn ffordd wahanol. Mae hyn wedi arwain at farn wahanol iawn ynglŷn â sut ddylid trefnu cymdeithas.