-
Y Traddodiad o Ryddfrydiaeth Ryngwladol
Er mwyn gweld pryd ddechreuodd y syniad yma, edrychwn yn ôl at gyfnod Richard Price, gan gyfeirio at ei waith ef ac yn arbennig at waith Immanuel Kant o wlad Prwsia. Fel eraill yn Oes y Goleuad, credent fod pobl yn medru rhesymu a chynigiodd y ddau ohonynt syniadau ar gyfer sefydlu cyfundrefn ryngwladol ffederal (fel yr Undeb Ewropeaidd ond ar raddfa fyd-eang).
O dan y drefn, byddai gan wledydd y byd berthynas gyfreithiol, gyfeillgar â’i gilydd, a byddent yn cydweithio er mwyn sicrhau heddwch parhaol. Mae hyn yn debyg i sefyllfa’r Cenhedloedd Unedig heddiw, ond byddai gan y corff llywodraethol hwnnw lawer mwy o rym. Byddai’r gyfraith yma yn llawer mwy pwerus, a byddai’n rhaid i wledydd pwerus y byd gadw ati. Mae hyn yn wahanol er enghraifft, i pan aeth yr Unol Daleithiau, Prydain a gwledydd eraill i ryfel yn Iraq, yn groes i ddymuniad y Cenhedloedd Unedig.
-
Rhyddfrydiaeth ac Ymerodraeth
I raddau helaeth, mae’r gyfundrefn ryngwladol heddiw yn adlewyrchu’r berthynas hanesyddol rhwng gwledydd, pan oedd rhai gwledydd yn rheoli eraill. Mae’r strwythur heddiw yn debyg i oes yr Ymerodraeth gyda’i uchafbwynt yn y 19eg ganrif. Dyma gyfnod pan oedd gwledydd Ewropeaidd pobl wyn (ac erbyn hynny, gwledydd fel yr Unol Daleithiau lle’r oedd pobl wyn yn rheoli’r bobl frodorol) yn rheoli rhannau helaeth o’r byd.
Nid oedd rhyddfrydiaeth prif ffrwd y cyfnod hwn yn gwrthwynebu’r drefn yma, ac nid oeddent yn cwestiynu cyfiawnder y sefyllfa. Roeddent yn credu bod Ymerodraeth yn rym da oedd yn gallu dod â chyfiawnder i wledydd eraill. Roedd y Rhyddfrydwr a’r Cymro enwog, Henry Richard, er yn cwestiynu elfennau o’r drefn ryngwladol ac yn anghytuno’n gryf â’r trais a ddefnyddiai pwerau’r gorllewin, nid oedd yn codi cwestiynau ynglŷn â’r anghydraddoldeb grym rhwng y gwledydd. Roedd Henry Jones, a oedd yn adlewyrchu nifer o syniadau rhyddfrydol ar ddechrau’r 20fed ganrif, eto’n parhau i weld yr Ymerodraeth fel grym da, grym a fedrai wella amgylchiadau pobl anwaraidd y byd.
Dyma fersiwn o’r syniad ‘baich y dyn gwyn’ (fel y soniodd Rudyard Kipling yn ei gerdd). Dyma’r syniad ei bod hi’n ddyletswydd ar bobl wyn i reoli pobl eraill y byd er mwyn eu helpu i ddatblygu a’u helpu’n ddiwylliannol, economaidd a chymdeithasol. Dyma oedd y cenhadon yn ei gredu wrth gwrs, wrth iddynt deithio’r byd er mwyn lledaenu Cristnogaeth ac ‘achub’ eneidiau. Er mai pwrpas moesol a chrefyddol oedd ganddynt, anodd yw edrych yn ôl heb feirniadu’r agwedd yma, yn enwedig wrth gofio bod y trefedigaethu yn defnyddio grym i reoli, ac yn ecsploetio'n economaidd, ac yn defnyddio trais ar sail hiliaeth bur.
Mae’r safbwynt ‘blaengar’ rhyngwladol yma i’w weld yn amlwg yng ngwaith Cymro arall, sef y Barwn David Davies. Roedd yn un o nifer o’r meddylwyr oedd yn cael eu galw yn ‘Ddelfrydwyr’. Gwnaethant ymateb i’r Ail Ryfel Byd drwy bwysleisio’r syniad rhyddfrydol o gael cyfundrefn gyfreithiol fyd-eang a’r gobaith am heddwch (heddiw mae ‘Teml Heddwch’ David Davies yng nghanol dinas Caerdydd). Eto, mae dylanwad yr ymerodraeth yn y drefn a awgrymir gan Davies, sydd yn rhoi’r cyfrifoldeb a’r grym yn y pen draw, i wledydd gwyn y gorllewin.
-
Rhyddfrydiaeth Ryngwladol Gyfoes
Gellir dadlau bod y safbwynt yma wedi parhau i mewn i ail hanner yr 20fed ganrif. Ond wedi’r Ail Ryfel Byd cafwyd syniadau a oedd yn mynd y tu hwnt i safbwynt y gorllewin ac yn rhoi mwy o bwyslais i bobl drwy’r byd i gyd.
Roedd y Datganiad Cyffredinol ar Hawliau Dynol yn adlewyrchu’r newid yma. Ceisiwyd dod â syniadau at ei gilydd a oedd yn adlewyrchu anghenion pawb dros y byd i gyd. Dyma safbwynt rhyddfrydol mwy radical, oedd yn gofyn am fwy o gyfiawnder i’r rhannau hynny o’r byd oedd wedi dioddef o dan y system ymerodraethol.
Cafwyd nifer o’r safbwyntiau yma yng ngwaith meddylwyr a oedd yn ceisio defnyddio’r syniad o ‘gyfiawnder cymdeithasol’ gan Ryddfrydwyr Modern yn y sefyllfa ryngwladol. Roedd nifer ohonynt yn dilyn syniadau’r Americanwr John Rawls, a’i syniadau am ailddosbarthu adnoddau rhwng gwledydd.
Er enghraifft, dadleuodd Charles Beitz, ac yn ddiweddarach Thomas Pogge, y gellid cyfiawnhau ailddosbarthu cyfoeth o wledydd cyfoethog y byd i’r rhai tlawd. Mae’r safbwynt ‘cosmopolitan’ hwn yn gofyn am ddiogelu ein statws fel unigolion, lle bynnag yr ydym yn byw yn y byd, a dylai’r gyfundrefn ryngwladol gael ei newid er mwyn sicrhau bod hawliau sylfaenol gan bob unigolyn.
Ochr yn ochr â’r ddadl, mae’r drefn ryngwladol bellach yn gofyn am gymaint o gydweithio fel ei bod yn rhesymol ei ystyried yn debyg i drefn y wladwriaeth. Oherwydd mae ailddosbarthu cyfoeth nid yn unig yn bosib, ond i’w ddisgwyl o safbwynt moesol. Dyma symud yn bell iawn o’r syniad realaidd o wleidyddiaeth ryngwladol fel cyflwr o anarchiaeth, gwrthdaro a rhyfela – tuag at weledigaeth o’r byd fel un gymdeithas sydd yn cydweithio.
Roedd Rawls ei hun yn cefnogi hyn, ond yn gweld mwy o werth a phwysigrwydd i rôl draddodiadol y wladwriaeth. Nid oedd ei syniadau ef yn mynd mor bell; credai y dylai gwledydd tlawd y byd greu sefydliadau gwleidyddol mwy grymus a sefydlog i sicrhau eu bod yn cael eu llywodraethu’n gyfiawn yn y tymor hir. Roedd ei ‘ddyletswydd o gymorth’ yn cwestiynu gwerth ailddosbarthu gormod o arian ac adnoddau, oherwydd iddo ef, y gallu i ddefnyddio’r adnoddau oedd yn bwysig.
Er bod safbwynt ‘cymunedolaidd’ Rawls yn fwy ceidwadol na’r safbwynt ‘cosmopolitan’, mae’r ddau safbwynt yn credu yn y syniad rhyddfrydol o symud tuag at gyfundrefn heddychlon a chyfiawn, ac yn wir mae Rawls yn nodi mai Kant oedd y prif ddylanwad arno.
Mae agweddau economaidd o’r traddodiad rhyddfrydol clasurol yn aml yn hollol groes i safbwyntiau Rawls, Beitz a rhyddfrydwyr modern eraill, yn enwedig gydag astudiaethau datblygiad. Dyma bwnc sydd yn edrych ar sut mae gwella cyflwr cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol gwladwriaethau llai ‘datblygedig’ yn y byd mwyafrifol. Gwelir y safbwynt yma yn ‘Cydsyniad Washington’ a ddatblygodd yn y 1990au, ac oedd yn pwyso ar wledydd llai datblygedig i leihau dylanwad y wladwriaeth, gan gopio agenda neo-ryddfrydiaethol Thatcher ac eraill, a chaniatáu llawer mwy o ddylanwad i farchnadoedd a’r sector preifat. Gwelwyd yn fuan bod angen mesurau eraill fel strwythurau gwladwriaethol cadarn i gefnogi’r farchnad, a hefyd telerau economi byd-eang tecach, a fyddai’n newid strwythurau a oedd yn ffafrio mantais hanesyddol y gwledydd Ewropeaidd a Gogledd America. Mae hanes yr economegydd Jeffrey Sachs yn dangos y datblygiadau yma. Bu ef yn gyfrifol am y‘shock therapy’ yng Ngwlad Pwyl yn y 1990au ac am wthio polisïau neo-ryddfrydol, ond erbyn y mileniwm newydd roedd wedi newid ei feddwl ac yn credu’n gryf mewn ymyrraeth a chefnogaeth ariannol gan y byd mwyafrifol.
Erbyn hyn, mae’r drafodaeth am ‘gyfiawnder byd-eang’ yn ehangach. Mae’n gweld bod angen i’r safbwynt rhyddfrydol gysylltu’n fwy uniongyrchol â safbwyntiau o’r byd mwyafrifol, tu hwnt i Ewrop a phobl wyn. (Defnyddir y term byd mwyafrifol, a hefyd “De Global”, yn lle “trydydd byd” a ddefnyddiwyd yn ail hanner yr 20fed ganrif ond na chaiff ei ddefnyddio erbyn hyn oherwydd yr awgrym o hierarchiaeth). Mae rhai yn credu y gall rhyddfrydiaeth newid ac addasu oherwydd y safbwyntiau yma – er enghraifft safbwyntiau sy’n rhoi mwy o bwyslais ar berthynas â’r amgylchedd a pharch tuag at natur. Ond, mae eraill yn credu nad yw rhyddfrydiaeth yn gallu addasu y tu hwnt i’w datblygiad hanesyddol, sydd yn rhan mor ganolog o agwedd a grym y dyn gwyn.
Cyd-destun Rhyddfrydiaeth a Realaeth
Er bod rhyddfrydiaeth yn safbwynt canolog iawn mewn gwleidyddiaeth heddiw, mae’r sefyllfa’n wahanol iawn yn rhyngwladol. Mewn rhai rhannau o’r byd mae syniadau rhyddfrydol yn cael eu beirniadu’n llym. Dyma’r safbwynt realaidd, sydd yn ystyried bod y system ryngwladol mewn cyflwr o anarchiaeth.
Dyma sefyllfa lle nad oes un grym yn cadw trefn ar bawb. Dyma ysgol o feddwl sy’n gwrthod yr angen am wladwriaeth, ac sy’n credu y byddai bywyd pobl wedi’i drefnu’n well o dan drefn arall, ddatganoledig.
Yn rhyngwladol, disgrifir y sefyllfa draddodiadol o genedl-wladwriaethau yn un ‘anarchaidd’ oherwydd nid oes gwladwriaeth na grym tebyg yn cadw trefn ar y cyfan ohonynt. Gwelir cystadleuaeth a gwrthdaro mewn gwleidyddiaeth ryngwladol, a dylai gwleidyddion felly roi pwyslais ar ddiogelwch a pharatoi am gystadleuaeth a’r posibilrwydd o ryfela.
Mae rhyddfrydiaeth yn gwrthwynebu’r agwedd hon, gan obeithio y gallwn symud ymlaen oddi wrth y gwrthdaro, tuag at gyfundrefn ryngwladol sydd yn cydweithio, ac o bosib, lle ceir cyfiawnder.