-
Roedd Price yn siarad mewn cyfarfod yn Llundain i gofio ‘Chwyldro Gogoneddus 1688’ ac yn trafod ei ymateb ef i'r Chwyldro arall oedd yn digwydd ar yr adeg honno yn Ffrainc. Roedd y Chwyldro Gogoneddus yn ddigwyddiad pwysig yn hanes Prydain, ac roedd nifer o syniadau’r meddyliwr enwog John Locke – er enghraifft y cytundeb cymdeithasol, hawliau naturiol a goddefgarwch – yn adlewyrchu syniadau newydd cyfnod a oedd yn cael ei adnabod fel man cychwyn y meddwl rhyddfrydol. Bwriad Richard Price oedd dangos sut roedd y chwyldroadwyr yn Ffrainc yn lledaenu ac yn datblygu’r egwyddorion rhyddfrydol y soniwyd amdanynt gan Locke ganrif cyn hynny.
-
-
Dyn yn perthyn i’w oes oedd Richard Price, gan fod ei syniadau'n adlewyrchu’r syniadau rhyddfrydol poblogaidd ar y pryd, gan gynnwys syniadau athronwyr enwog fel Immanuel Kant. Gelwir y cyfnod yma yn Oes y Goleuo, ac yn ystod yr adeg yma sefydlwyd nifer o egwyddorion canolog rhyddfrydiaeth, megis unigoliaeth a rhesymoliaeth. Roedd llawer o bwyslais hefyd ar y posibiliadau o newid y drefn ryngwladol a sicrhau cydweithio heddychlon yn lle rhyfeloedd.
Yn ystod y 19eg ganrif roedd anghytuno rhwng y gwahanol ffrydiau rhyddfrydol clasurol a modern, wrth i gwestiynau am gyfiawnder, cydraddoldeb a democratiaeth godi yn ystod y Chwyldro Diwydiannol. Roedd sosialwyr megis Robert Owen yn cwestiynu rhyddfrydiaeth glasurol. Ar yr un pryd, cafwyd meddylwyr rhyddfrydol newydd a daeth ffigurau fel John Stuart Mill yn amlwg. Roedd y sosialwyr modern hyn yn ceisio uno unigoliaeth ryddfrydol gyda syniadau cymdeithasol mwy blaengar fel rhyddid a chydraddoldeb. Arweiniodd y syniadau hyn at ryddfrydiaeth gymdeithasol gwaith pobl fel T.H. Green, L.T. Hobhouse a’r Cymro Henry Jones. Roedden nhw’n pwysleisio rôl y wladwriaeth ryddfrydol, a gwelwyd yr agenda gwleidyddol yma yn y Deyrnas Unedig yng ngwleidyddiaeth a pholisïau Lloyd George.
Yn ystod yr 20fed ganrif ceisiwyd ymhellach i gysylltu rhyddfrydiaeth gyda chydraddoldeb, ac yn enwedig y syniad bod angen i’r wladwriaeth ymyrryd er mwyn gwneud hyn. Mae gwaith Isaiah Berlin, sydd yn trafod rhyddid negyddol a rhyddid cadarnhaol, yn dangos rhai o'r tensiynau y gall hyn achosi. Yn dilyn dirwasgiad y 1930au a'r 1940au daeth syniadau economegwyr rhyddfrydol fel John Maynard Keynes i ddylanwadu’n drwm ar bolisïau cyflogaeth ac economaidd yng Nghymru a thu hwnt.
Ar ddiwedd yr 20fed ganrif cyhoeddodd yr Americanwr John Rawls ei egwyddorion rhyddfrydiaeth egalitaraidd, a daeth ymateb libertaraidd gan Robert Nozick. Erbyn heddiw, mae nifer o drafodaethau yn parhau ynglŷn â’r themâu a gyflwynwyd gan Rawls a Nozick, gan gynnwys ceisio ail-ddiffinio syniadau fel hawliau, cydraddoldeb a rhyddid yng nghyd-destun y gymdeithas fodern. Er bod y Blaid Ryddfrydol yn wan ar hyn o bryd, yng Nghymru a thu hwnt, mae’n debyg bod hyn i raddau oherwydd bod egwyddorion rhyddfrydiaeth bellach i’w gweld ar draws cymdeithas yn gyffredinol. Gellir dweud eu bod yn gosod fframwaith ar gyfer trafodaethau gwleidyddol ein hoes. Ac wrth i ni ddelio â sialensiau gwleidyddol newydd pynciau fel dinasyddiaeth, cyfranogiad dinesig, amlddiwylliannaeth a globaleiddio, rhaid cofio eu bod yn syniadau a thrafodaethau a ddechreuodd yn y traddodiad rhyddfrydol.
Ar y 4ydd o Dachwedd, 1789, cyflwynodd y Cymro a'r Rhyddfrydwr enwog, Richard Price, bregeth a achosodd drafodaeth wleidyddol fywiog; soniodd am nifer o syniadau gwleidyddol sy'n parhau i gael llawer o sylw heddiw.