-
I ddechrau, mae’r sawl sy’n arddel y dehongliad primordaidd wedi mynnu y dylid trin cenedlaetholdeb fel ffenomen hynafol sy’n perthyn i’r cyfnod cyn-fodern. Yn nhyb y sawl sydd wedi’i uniaethu â’r safbwynt hwn, mae cenhedloedd yn unedau naturiol ac organig sy’n adlewyrchu tuedd reddfol ymhlith bodau dynol i drefnu’u hunain yn grwpiau, a hynny er mwyn magu ymdeimlad o berthyn, hunaniaeth a sicrwydd. Dadleuir bod cenedlaetholdeb yn ganlyniad anochel i’r duedd hon ac, o ganlyniad, y gellir ei olrhain yn ôl i arferion rhai o’r grwpiau a’r llwythau cynharaf. Ymhellach, honnir ei fod yn ffenomen a fydd yn parhau cyhyd â bod y ddynoliaeth yn goroesi. Ffigur a gaiff ei gysylltu â’r dehongliad primordaidd o genedlaetholdeb yw’r meddyliwr Almaenig o’r ddeunawfed ganrif, Johann Gottfried Herder (1744-1803). Fodd bynnag, nid dim ond safbwynt sy’n perthyn i’r gorffennol ydyw – mynegwyd safbwyntiau lled debyg hefyd mewn gwaith mwy cyfoes o eiddo seicolegwyr.
-
-
Ceir dehongliad pur wahanol o wreiddiau cenedlaetholdeb gan y sawl sy’n arddel y safbwynt modernaidd. Fel yr awgryma’r enw, hanfod y safbwynt hwn yw’r gred mai ffenomen lled ddiweddar yw cenedlaetholdeb – rhywbeth a ddaeth i amlygrwydd fel rhan o’r newidiadau mawr a brofwyd ar draws Ewrop o’r unfed ganrif ar bymtheg ymlaen wrth i hanes gamu o’r Oesoedd Canol i mewn i’r Cyfnod Modern. Dyma broses a nodweddwyd gan gyfres o newidiadau pellgyrhaeddol. Heb os, y ddau amlycaf oedd datblygiad trefn gymdeithasol ac economaidd oedd yn seiliedig ar gyfalafiaeth a datblygiad trefn wleidyddol oedd yn seiliedig ar y wladwriaeth sofran. Ffenomen a ddatblygodd yn sgil y prosesau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol hyn yw cenedlaetholdeb yn nhyb y sawl sy’n arddel y safbwynt modernaidd. Dadleuir mai dim ond yn sgil amgylchiadau newydd yr oes fodern y daeth cenedlaetholdeb i fodolaeth. Cynt, byddai amgylchiadau bywyd wedi gwneud ymlediad syniadau o’r fath yn amhosib.
Un o ladmeryddion amlycaf y safbwynt modernaidd oedd yr athronydd a’r anthropolegwr, Ernest Gellner (1925-1995). Yn ei gyfrol enwog Nations and Nationalsim (1983) dadleuodd Gellner bod cenedlaetholdeb yn ganlyniad i’r ffaith bod amgylchiadau’r gymdeithas ddiwydiannol fodern yn golygu bod sicrhau lefel uchel o gydlyniant ieithyddol a diwylliannol yn gwbl angenrheidiol. Mewn cymdeithasau cyn-ddiwydiannol nid oedd gwahaniaethau ieithyddol neu ddiwylliannol yn creu unrhyw broblem. Lleol iawn oedd gorwelion bywyd y mwyafrif llethol, a chyfyngedig oedd y cysylltiad rhwng unigolion o wahanol haenau cymdeithasol. O ganlyniad, nid oedd ots os oedd iaith neu arferion diwylliannol gwahanol ddosbarthiadau o fewn cymdeithas yn wahanol i’w gilydd. Fodd bynnag, yn y cyfnod diwydiannol modern daeth unigolion i fyw bywydau llawer mwy cyfnewidiol a datblygodd y gymdeithas yn gyffredinol i fod yn un llawer mwy symudol. Nid oedd pobl bellach yn treulio’u bywydau mewn cymunedau ynysig a daeth dyrchafu’n gymdeithasol yn fwyfwy posib. Yr unig ffordd y gellid sicrhau bod modd i bobl symud o amgylch – a thrwy – cymdeithas yn y fath fodd yw trwy greu cyfrwng diwylliannol cyffredin sy’n galluogi pawb i ymwneud yn hwylus â’i gilydd. Yn ôl Gellner cafodd y glud ieithyddol a diwylliannol hwn ei ledaenu ar draws cymdeithas trwy waith cyfundrefn addysg gyffredin, a dyma ddarparodd y sail ar gyfer datblygiad ymdeimlad o genedlaetholdeb mewn gwahanol rannau o Ewrop yn ystod y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Lladmerydd arall ar ran y safbwynt modernaidd oedd yr hanesydd Marcsaidd, Eric Hobsbawm (1913-2012). Fodd bynnag, mae pwyslais dadleuon Hobsbawm ychydig yn wahanol i rai Gellner. Yn hytrach na chanolbwyntio ar newidiadau cymdeithasol ac economaidd cyffredinol, mae Hobsbawm yn mynnu y dylid rhoi sylw i weithredoedd gwleidyddol rhai carfanau penodol. Yn nhyb Hobsbawm, lol yw sôn am ymlyniad cenedlaethol sy’n ymestyn nôl i’r gorffennol pell. Yn hytrach, pethau a gaiff eu creu yn fwriadol yn ystod degawdau cynnar y bedwaredd ganrif ar bymtheg yw’r genedl, ynghyd â’r ymdeimlad cysylltiedig o genedlaetholdeb. Aelodau’r bourgeoisie sy’n bennaf gyfrifol am arwain y broses hon yn ôl Hobsbawm. Fel Marcsydd ymroddedig, dadleuodd bod y garfan yma wedi mynd ati o tua’r 1830au ymlaen i ‘ddyfeisio traddodiadau’ – er enghraifft baneri cenedlaethol, anthemau cenedlaethol neu wyliau cenedlaethol – a fyddai’n cynnig sail i’r syniad o genedl. Dadleuodd Hobsbawm y gwnaed hyn er mwyn magu ymdeimlad o genedligrwydd, a thrwy hynny, annog aelodau’r dosbarth gweithiol i dybio eu bod yn rhannu diddordebau cyffredin â’r sawl sy’n rheoli cymdeithas. Yn sgil hynny, câi potensial chwyldroadol y proletariat ei ffrwyno gan ‘ffug ymwybyddiaeth’, tra bo grym a statws y bourgeoisie yn cael ei gynnal.
Tra bo’r safbwyntiau primordaidd a modernaidd yn cynrychioli dau begwn eithaf y drafodaeth ynglŷn â gwreiddiau cenedlaetholdeb, ceir trydydd safbwynt sy’n sefyll rhywle yn y canol. Caiff y safbwynt hwn ei gysylltu’n bennaf â gwaith yr hanesydd Anthony D. Smith (1939-2016) a’i ddadleuon ethno-symbolaidd. Yn nhyb Smith, mae dadleuon modernwyr megis Gellner neu Hobsbawm yn tueddu i or-symleiddio pethau, gan anwybyddu’r elfen o barhad a geir rhwng cenhedloedd modern a chymunedau ethnig cyn-fodern – parhad, er enghraifft, o ran traddodiadau, hanesion, iaith a llenyddiaeth. Ar yr un pryd, tra bo Smith yn pwysleisio’r elfen yma o barhad, mae hefyd yn dadlau na ddylid diystyru’r newidiadau pwysig sy’n arwain at droi ymlyniadau ethnig cyn-fodern i fod yn genedlaetholdeb fel yr adnabyddir ef erbyn heddiw. At ei gilydd felly, mae safbwynt Smith yn un sy’n mynnu na ddylid cyflwyno cenedlaetholdeb modern fel ffenomen sy’n codi o unman, ond hytrach rhywbeth sy’n adeiladu ar ddeunydd crai sy’n deillio o gyfnodau hanesyddol cynt.
I grynhoi, gwelwyd yn yr adran hon bod y drafodaeth ynglŷn â gwreiddiau cenedlaetholdeb wedi esgor ar ystod o safbwyntiau gwahanol ymhlith haneswyr, gwyddonwyr gwleidyddol a chymdeithasegwyr. Hanfod yr anghydweld rhwng y safbwyntiau hyn yw’r graddau y dylid trin cenedlaetholdeb fel ffenomen fodern sy’n perthyn yn bennaf i’r ddau gan mlynedd diwethaf, neu, yn hytrach, fel rhywbeth organig a hynafol sy’n ymestyn yn ôl i’r gorffennol pell.
Mae’r drafodaeth ynglŷn â gwreiddiau cenedlaetholdeb yn un sydd wedi esgor ar ddadlau poeth ymhlith nifer o haneswyr, gwyddonwyr gwleidyddol a chymdeithasegwyr. Tuedda’r mwyafrif helaeth o ysgolheigion i gytuno mai ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg y gwelwyd termau megis ‘cenedl’ a ‘chenedlaetholdeb’, ynghyd â themâu cysylltiedig megis ‘hunanbenderfyniad cenedlaethol’ a ‘hunaniaeth genedlaethol’, yn dechrau cael eu defnyddio’n gyson mewn cyd-destunau gwleidyddol. Fodd bynnag, ceir anghydweld sylweddol ynglŷn â’r graddau y dylid hefyd trin y teimladau a’r syniadau a ddaeth i gael eu cynrychioli gan y termau hyn fel pethau sydd ond yn perthyn i’r cyfnod modern. Nid yw ysgolheigion wedi medru cytuno ynglŷn ag os ddylid trin cenedlaetholdeb fel ffenomen ddiweddar, neu, yn hytrach, fel rhywbeth sy’n ymestyn yn ôl i’r gorffennol pell.