-
Cenedlaetholdeb Rhyddfrydol
Gwelwyd traddodiad a oedd yn asio syniadau cenedlaetholgar â rhai rhyddfrydol yn datblygu yn ystod y blynyddoedd yn dilyn y Chwyldro Ffrengig yn 1789. Yn wir, yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg gwelwyd cyswllt agos iawn yn datblygu rhwng y ddau draddodiad yma ar draws gwahanol rannau o Ewrop. Nodweddwyd y gyfres o chwyldroadau a welwyd ar draws y cyfandir yn 1848 gan ddadleuon a oedd yn cyfuno’r alwad am ymreolaeth genedlaethol â galwad am drefniadau llywodraethol mwy cyfansoddiadol ac atebol. Ystyrir dadleuon y mudiad cenedlaetholgar yn yr Eidal, ac yn benodol, syniadau un o’i arweinwyr, Giuseppe Mazzini (1805-1872), fel enghraifft amlwg o’r duedd hon. Cafodd egwyddorion tebyg eu harddel hefyd gan Simon Bolivar (1783-1830), un o arweinwyr y mudiad annibyniaeth yn ne America, oedd â’r nod o roi diwedd ar reolaeth ymerodraethol Sbaen dros fywyd trigolion y cyfandir hwnnw. Yn ogystal, fe welir dylanwad cenedlaetholdeb rhyddfrydol yn y ‘Pedwar Pwynt ar Ddeg’ enwog a luniwyd yn 1918 gan arlywydd America, Woodrow Wilson (1856-1924) fel sail i Gytundeb Versailles – y cytundeb heddwch a luniwyd ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf ac a arweiniodd at aildrefnu gwleidyddol a thiriogaethol sylweddol ar draws rhannau o ganolbarth a dwyrain Ewrop.
Gellir nodi dwy agwedd bwysig sy’n tueddu i nodweddu syniadau’r cenedlaetholwyr rhyddfrydol – y naill yn nodwedd genedlaetholgar a’r llall yn nodwedd rhyddfrydol:
- • Hunanbenderfyniaeth cenedlaethol: I ddechrau, caiff y wedd genedlaetholgar ei hamlygu gan y ffaith bod cenedlaetholwyr rhyddfrydol yn credu bod y byd wedi’i rannu’n gyfres o genhedloedd gwahanol, a phob un yn meddu ar hunaniaeth unigryw. Ymhellach, tybir bod pob un o’r cenhedloedd hyn yn gyfartal o ran statws ac yn cynrychioli unedau addas ar gyfer trefnu cymdeithas wleidyddol. O ganlyniad, amcan traddodiadol cenedlaetholwyr rhyddfrydol fu ceisio creu amodau lle fo pob cenedl yn meddu ar hunanbenderfyniaeth – hynny yw yr annibyniaeth wleidyddol i lunio ei dyfodol ei hun ar ei thelerau ei hun. Yr arfer fu i dybio bod hyn yn gyfystyr â meddu ar yr hawl i sefydlu gwladwriaeth sofran annibynnol. Fodd bynnag, yn ddiweddar mae amryw o genedlaetholwyr rhyddfrydol wedi dadlau bod hefyd modd gwireddu hunanbenderfyniad trwy gyfrwng trefniadau ffederal neu gydffederal lle bo’r genedl yn arddel ymreolaeth bellgyrhaeddol, ond fel rhan o wladwriaeth fwy.
- • Sofraniaeth y bobl: Yn ail, caiff y pwyslais cenedlaetholgar uchod ar statws unedau cenedlaethol ei asio â’r pwyslais rhyddfrydol ar gydsyniad neu sofraniaeth y bobl – hynny yw y gred y dylai grym ac awdurdod gwleidyddol godi o’r gwaelod, o blith y bobl gyffredin. Yn yr achos hwn, wrth gwrs, y ‘bobl’ berthnasol yw aelodau’r genedl, a’u cydsyniad nhw sydd angen ei sicrhau wrth greu cymuned wleidyddol a threfnu ei system lywodraethol. Golyga hyn felly fod cenedlaetholwyr rhyddfrydol nid yn unig yn poeni ynglŷn ble yn union y byddai ffiniau cymuned wleidyddol benodol yn gorwedd, ond hefyd pa fath o gyfundrefn wleidyddol a gâi ei chreu o fewn y ffiniau hynny.
Y pwyslais hwn ar hunanbenderfyniad cenedlaethol, ochr yn ochr â’r angen am drefniadau llywodraeth mwy atebol, sy’n egluro pam y bu i genedlaetholdeb rhyddfrydol sicrhau dilyniant mor eang yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Roedd hwn yn gyfnod pan roedd gwahanol grwpiau cenedlaethol yn galw am ymryddhad o afael rhai o’r hen ymerodraethau Ewropeaidd, er enghraifft Ymerodraeth Awstria. Ond, ar yr un pryd, gan fod yr ymerodraethau hyn yn rhai unbenaethol, roedd yr ymgyrchu hefyd yn cynnwys galw am ffurfiau llywodraethol mwy atebol.
Er poblogrwydd cenedlaetholdeb rhyddfrydol dros y blynyddoedd, mae beirniaid wedi tynnu sylw at ystod o wendidau posib. I ddechrau, mae rhai wedi cyhuddo cenedlaetholwyr rhyddfrydol o fod yn naïf. Ar y naill law, maent yn barod iawn i bwysleisio rhinweddau da a blaengar cenedlaetholdeb a’u gyflwyno fel grym rhesymol, goddefgar a rhyddfreiniol, ond ar y llaw arall, awgrymir eu bod yn euog o anwybyddu’r modd y mae cenedlaetholdeb hefyd wedi gweithredu fel grym dinistriol dros y blynyddoedd. Yn ail, ac o bosib yn fwy difrifol, honnwyd bod cred cenedlaetholwyr rhyddfrydol y dylai pob cenedl gael ei thrin yn gyfartal a meddu ar hawl gyfartal i hunanbenderfyniaeth cenedlaethol yn safbwynt cwbl anymarferol. Y gwir amdani yw nad yw cenhedloedd yn unedau unffurf sydd ond yn cynnwys un grŵp ethnig neu ddiwylliannol. Yn aml iawn bydd cenhedloedd yn cwmpasu amryw o grwpiau gwahanol sydd oll â syniadau gwahanol ynglŷn â sut y dylid trefnu dyfodol gwleidyddol y diriogaeth. Mae hanes gwaedlyd yn Iwgoslafia gynt yn brawf clir o hyn. O ganlyniad, mae beirniaid cenedlaetholdeb rhyddfrydol wedi dadlau na all ei egwyddorion gynnig canllaw dibynadwy ar gyfer ymdrin â byd sy’n llawn o wahaniaethau a thensiynau ethno-genedlaethol.
Er beirniadaethau o’r fath, nid yw’r diddordeb mewn cenedlaetholdeb rhyddfrydol wedi pylu. I’r gwrthwyneb, dros yr ugain mlynedd diwethaf gwelwyd ton newydd o ysgolheigion yn mynd ati i drafod natur y berthynas rhwng egwyddorion cenedlaetholgar a rhai rhyddfrydol. Fel rhan o’r symudiad hwn mae ysgolheigion rhyddfrydol, megis Yael Tamir, David Miller a Will Kymlicka, wedi dadlau bod cynnal rhyw fath o ymdeimlad cenedlaethol yn hollbwysig er mwyn caniatáu i gymdeithasau ryddfrydol-ddemocrataidd fedru gweithredu’n effeithiol. I ddechrau, dadleuwyd bod meddu ar hunaniaeth genedlaethol sicr yn caniatáu i unigolion arddel eu rhyddid mewn modd ystyrlon. Yn ogystal, mynnwyd bod cynnal ymdeimlad cyffredin o hunaniaeth genedlaethol yn fodd o sicrhau bod cymdeithas yn meddu ar y fath o undod ac ymddiriedaeth sy’n angenrheidiol er mwyn cynnal sefydliadau democrataidd iach a gwladwriaeth les hael.
- • Hunanbenderfyniaeth cenedlaethol: I ddechrau, caiff y wedd genedlaetholgar ei hamlygu gan y ffaith bod cenedlaetholwyr rhyddfrydol yn credu bod y byd wedi’i rannu’n gyfres o genhedloedd gwahanol, a phob un yn meddu ar hunaniaeth unigryw. Ymhellach, tybir bod pob un o’r cenhedloedd hyn yn gyfartal o ran statws ac yn cynrychioli unedau addas ar gyfer trefnu cymdeithas wleidyddol. O ganlyniad, amcan traddodiadol cenedlaetholwyr rhyddfrydol fu ceisio creu amodau lle fo pob cenedl yn meddu ar hunanbenderfyniaeth – hynny yw yr annibyniaeth wleidyddol i lunio ei dyfodol ei hun ar ei thelerau ei hun. Yr arfer fu i dybio bod hyn yn gyfystyr â meddu ar yr hawl i sefydlu gwladwriaeth sofran annibynnol. Fodd bynnag, yn ddiweddar mae amryw o genedlaetholwyr rhyddfrydol wedi dadlau bod hefyd modd gwireddu hunanbenderfyniad trwy gyfrwng trefniadau ffederal neu gydffederal lle bo’r genedl yn arddel ymreolaeth bellgyrhaeddol, ond fel rhan o wladwriaeth fwy.
-
Giuseppe Mazzini
-
Cenedlaetholdeb Ceidwadol
Tra bod cenedlaetholdeb a rhyddfrydiaeth wedi datblygu perthynas agos yn gynnar yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, tueddai ceidwadwyr y cyfnod i ystyried cenedlaetholdeb fel grym peryglus a oedd yn meddu ar y potensial i danseilio trefn a sefydlogrwydd cymdeithasol. Fodd bynnag, yn hwyrach yn ystod y ganrif gwelwyd ceidwadwyr yn magu agwedd mwy ffafriol tuag at genedlaetholdeb ac yn sgil hynny gwelwyd ffurf ar genedlaetholdeb ceidwadol yn datblygu.
Un ffactor a berodd i wleidyddion ceidwadol y cyfnod, er enghraifft Benjamin Disraeli ym Mhrydain, i roi mwy o sylw i syniadau cenedlaetholgar oedd y gred y gallai pwysleisio bodolaeth cwlwm cenedlaethol gyfrannu at uno aelodau’r genedl. Tybiwyd y gellid defnyddio syniadau o’r fath er mwyn hwyluso ymdrechion ceidwadwyr i gynnal sefydlogrwydd cymdeithasol ac amddiffyn sefydliadau traddodiadol. O ganlyniad, un o nodweddion amlycaf y ffurf geidwadol ar genedlaetholdeb fu’r pwyslais ar sicrhau undod a sefydlogrwydd y genedl. Ceisiwyd cyflawni hyn trwy hybu teimladau o ddyletswydd genedlaethol ac o falchder cenedlaethol, a hynny gyda’r bwriad o feithrin ymdeimlad o berthyn a theyrngarwch sy’n ymestyn ar draws gwahanol ddosbarthiadau cymdeithasol. Yn wir, ar sail eu gallu i gymell aelodau’r dosbarth gweithiol i deimlo’n rhan o’r gymdeithas gyfalafol fodern, daeth nifer o geidwadwyr y bedwaredd ar bymtheg i ddehongli syniadau cenedlaetholgar fel adnoddau defnyddiol y gellid eu harneisio er mwyn tanseilio apêl sosialaeth, ac yn enwedig ei ffrwd Farcsaidd mwy chwyldroadol.
Gwelwyd tactegau tebyg yn cael eu harddel gan geidwadwyr mwy cyfoes hefyd. Er enghraifft, roedd gogwydd genedlaetholgar amlwg i wleidyddiaeth Charles De Gaulle, arlywydd ceidwadol Ffrainc rhwng 1959 a 1969. Rhoddodd De Gaulle bwyslais mawr ar themâu megis dyletswydd cenedlaethol a balchder cenedlaethol fel rhan o’i ymgais i ailadeiladu gwladwriaeth a chymdeithas Ffrainc yn dilyn chwalfa’r Ail Ryfel Byd a dirywiad ei hymerodraeth. I raddau helaeth, gellir dehongli agenda wleidyddol Margaret Thatcher, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig rhwng 1979 a 1990, fel un a oedd hefyd yn meddu ar ogwydd cenedlaetholgar gref. Boed wrth amddiffyn ei pholisïau llym ar wariant cyhoeddus, ei hymdrechion i danseilio dylanwad yr undebau llafur, neu ei chred mewn polisi amddiffyn cadarn, rhoddai Thatcher bwyslais cyson ar y syniad o ddyletswydd genedlaethol. Dadleuodd hefyd o blaid yr angen i ailgodi bri cenedlaethol y Deyrnas Unedig yn dilyn y dirywiad a fu yn ei statws rhyngwladol yn ystod y 1960au a’r 1970au.
Elfen bwysig arall sy’n nodweddu cenedlaetholdeb ceidwadol yw’r pwyslais a roddir ar draddodiad a hanes. I raddau, mae cydnabyddiaeth o hanes y genedl yn elfen sy’n nodweddu bron pob math o genedlaetholdeb. Fodd bynnag mae hyn yn thema sy’n amlwg iawn yn nadleuon cenedlaetholwyr ceidwadol. Dyma ffurf ar genedlaetholdeb sy’n barod iawn i edrych yn ôl ac i ddyrchafu rhyw oes aur (honedig) o’r gorffennol. Amlygir hyn gan y pwyslais a roddir gan genedlaetholwyr ceidwadol ar bethau megis buddugoliaethau milwrol o’r gorffennol a’r modd y tueddir i’w dehongli fel digwyddiadau cwbl allweddol yn natblygiad y genedl. Fe’i gwelir hefyd yn y modd y caiff statws symbolaidd aruchel ei briodoli i rai sefydliadau traddodiadol, yn enwedig teuluoedd brenhinol.
O ystyried y pwyslais mae cenedlaetholwyr ceidwadol eu natur yn tueddu i’w roi ar drefn, undod a sefydlogrwydd cenedlaethol, nid yw’n syndod bod y ffurf hon ar genedlaetholdeb wedi tueddu i gael ei mynegi mewn modd arbennig o echblyg ar adegau pan dybir bod y genedl a’u hunaniaeth yn cael ei bygwth. Er enghraifft, fel rhan o’u hymgais i wrthwynebu’r broses o integreiddio Ewropeaidd, gwelwyd nifer o wleidyddion adain dde o bob rhan o’r cyfandir yn dadlau bod datblygiad trefniadau llywodraethol ‘uwchgenedlaethol’ yn peryglu sofraniaeth y genedl a hefyd yn tanseilio pob math o sefydliadau cenedlaethol traddodiadol. Wrth gwrs, fe welwyd hyn ar ei fwyaf amlwg ym Mhrydain ymhlith aelodau’r Blaid Geidwadol ac UKIP. Fodd bynnag bu’n nodwedd o ddadleuon gwleidyddion ceidwadol eraill hefyd, er enghraifft aelodau pleidiau’r Ffrynt Genedlaethol yn Ffrainc neu Lega yn yr Eidal. Mae’r modd y mae ceidwadwyr wedi mynegi eu hamheuon ynglŷn â mewnfudo rhyngwladol hefyd wedi’i seilio ar themâu cenedlaetholgar. A siarad yn gyffredinol, mae’r dadleuon hyn yn hawlio bod gormod o wahaniaethau diwylliannol a chrefyddol yn debygol o danseilio’r ymdeimlad o hunaniaeth gyffredin sy’n clymu cymdeithas at ei gilydd ac, yn sgil hyn, yn debygol o arwain at wrthdaro ac ansefydlogrwydd.
O ystyried y dadleuon uchod, nid yw’n syndod bod cenedlaetholdeb ceidwadol yn draddodiad sydd wedi esgor ar gryn feirniadaeth. O bosib y pennaf o’r beirniadaethau hyn yw hwnnw sy’n hawlio bod cenedlaetholdeb ceidwadol yn draddodiad adweithiol ei natur sy’n esgor ar deimladau rhagfarnllyd ac anoddefgar. Trwy roi cymaint o bwyslais ar undod cenedlaethol, ac yn sgil hynny, ar bwysigrwydd sefydliadau traddodiadol ac arferion diwylliannol penodol, mae peryg bod y sawl sy’n arddel y safbwynt hwn yn mynnu dehongli’r genedl mewn modd rhy gul ac yn rhoi gormod o bwyslais ar y gwahaniaethau rhwng aelodau’r genedl ac eraill. Yn wir, yn ei ffurf fwyaf eithafol gall y ffurf hon ar genedlaetholdeb droi’n hiliaeth neu’n senoffobia anoddefgar. Eto i gyd, mae’n werth nodi bod pob ffurf ar genedlaetholdeb – bod hwnnw’n geidwadol, sosialaidd neu’n rhyddfrydol ei natur – yn rhwym o gynnwys elfen o wahaniaethu ac o geisio sefydlu ffiniau rhwng ‘ni’ a ‘nhw’. Y gwir amdani yw bod diffinio unrhyw hunaniaeth yn galw am wneud hyn. Er mwyn gwybod pwy neu beth ydym ni, rhaid gwybod pwy neu beth nad ydym. Fel y dadleuodd yr athronydd Cymreig, J.R. Jones: ‘ni ellir gwybod am berthyn heb ymglywed â pheidio perthyn.’
Cenedlaetholdeb Ymledol
Ceir trydedd ffurf ar genedlaetholdeb sy’n meddu ar gymeriad ymosodol, rhyfelgar ac ymledol. Dyma genedlaetholdeb sy’n gwrthgyferbynnu’n llwyr â’r ffurf fwy rhyddfrydol a’i bwyslais ar gydraddoldeb a hunanbenderfyniaeth. Yn wir, ar adegau bu tuedd i’r ffurf fwy ymosodol ac ymledol hon ar genedlaetholdeb i gyd-redeg yn agos iawn â syniadau ffasgaidd.
Mae’n debyg mai yn ystod degawdau olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg – o’r 1870au ymlaen – y daeth y ffurf hon ar genedlaetholdeb i’r amlwg, a hynny yng nghyd-destun yr ail don fawr o drefedigaethu gan wladwriaethau Ewrop. Dyma’r cyfnod pan fu gwladwriaethau imperialaidd y cyfnod – Ffrainc, yr Almaen a’r Deyrnas Unedig – yn ymgiprys er mwyn sicrhau eu gafael dros rannau o gyfandir Affrica. Wrth reswm, roedd awydd i ennill mantais economaidd yn un ffactor pwysig a gyfrannodd at yrru’r ymdrechion hyn. Fodd bynnag, roedd awydd i ddyrchafu statws a bri rhyngwladol y genedl hefyd yn ystyriaeth flaenllaw, a hynny i raddau llawer mwy nag yn ystod cyfnodau cynharach o drefedigaethu. Yn wir, rhwng 1870 a 1914 daeth y gallu i feddu ar ymerodraeth helaeth i gael ei drin fel arwydd pwysig o lewyrch cenedl, ac yn sgil hynny, esgorodd ymgyrchoedd trefedigaethol y cyfnod ar gefnogaeth gyhoeddus frwd. Tueddir hefyd i ddehongli’r cyfnodau arweiniodd at y ddau Ryfel Byd fel rhai pan roedd cenedlaetholdeb ymosodol ac ymledol ar gerdded. Cychwynnodd y Rhyfel Byd Cyntaf yn 1914 – yn rhannol yn sgil y tensiynau a ddeilliodd o ras arfau estynedig rhwng yr Almaen a’r Deyrnas Unedig – a serch y dinistr a’r lladd a brofwyd maes o law, fe gafodd y newyddion ei groesawu’n frwd mewn sawl prifddinas ar draws Ewrop, gan y tybiwyd y byddai’r brwydro yn cynnig cyfle i bwysleisio gallu milwrol a bri cenedlaethol. Yna, yn achos yr Ail Ryfel Byd (1939-1945), deilliodd y gwrthdaro, i raddau helaeth, o’r tensiynau a berwyd gan ymgyrchoedd ymledol cyfundrefnau ffasgaidd yr Almaen a’r Eidal a Japan yn ystod y 1930au – ymgyrchoedd a oedd yn meddu ar naws cenedlaetholgar cryf. Yn fwy diweddar byth, fe welwyd dylanwad dinistriol cenedlaetholdeb ymledol ar waith fel rhan o’r rhyfela gwaedlyd a ddeilliodd o ymrannu gwladwriaeth Iwgoslafia yn ystod y 1990au, ac yn arbennig fel rhan o ymgyrch ffigurau fel Slobadan Milošević i greu un ‘Serbia Fawr’.
Un o nodweddion amlycaf y ffurf ymledol ar genedlaetholdeb yw ymagwedd siofinaidd (chauvinistic) gref. Yn wahanol i genedlaetholwyr rhyddfrydol, gwrthodir yr honiad bod pob cenedl yn gydradd, ac yn sgil hynny, yn meddu ar hawl gydradd i hunanbenderfyniaeth cenedlaethol. Yn hytrach, hawlir bod rhai cenhedloedd yn meddu ar nodweddion neu rinweddau sy’n eu gosod uwchlaw eraill. Roedd siofinyddiaeth o’r math hwn yn un elfen amlwg o syniadau’r cenedlaetholwr Ffrengig, Charles Maurras (1868-1952), oedd yn arweinydd i’r mudiad adain-dde Action Françise. Disgrifiodd Maurras Ffrainc fel ‘ryfeddod digymar’ a ‘chronfa o rinweddau Cristnogol a chlasurol’. Roedd siofinyddiaeth hefyd yn nodwedd amlwg o’r cenedlaetholdeb a fu’n sail i ymgyrchoedd trefedigaethol gwledydd Ewrop yn ystod degawdau olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Gyrrwyd yr ymgyrchoedd hyn, yn rhannol, gan gred sicr yng ngoruchafiaeth ddiwylliannol Ewrop. Tybiwyd fod pobloedd ‘gwyn’ Ewrop yn bell ar y blaen, o ran dysg a moeseg, i’r bobloedd ‘du’, ‘brown’ a ‘melyn’ a drigai ar draws Affrica ac Asia. O ganlyniad, cyflwynwyd trefedigaethu fel ymgais foesol i ledu manteision y ‘gwareiddiad Ewropeaidd’ i’r bobloedd ‘llai soffistigedig’ a ‘llai datblygedig’ a drigai mewn rhannau eraill o’r byd.
Cenedlaetholdeb Gwrthdrefedigaethol
Arweiniodd y profiad o fyw o dan reolaeth drefedigaethol at hybu ymdeimlad o genedligrwydd, ynghyd â dyhead am ymryddhad cenedlaethol, ymhlith rhai o bobloedd Affrica ac Asia. Yn sgil hyn, datblygodd ffurf amgen ar genedlaetholdeb gwrthdrefedigaethol yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif.
Arweiniodd y broses o ddad-drefedigaethu a ddatblygodd yn ystod y degawdau yn dilyn yr Ail Ryfel Byd at drawsnewid daearyddiaeth wleidyddol y byd. Daeth diwedd ar yr hen ymerodraethau Ewropeaidd wrth i gost cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol y ddau ryfel byd olygu nad oedd gwladwriaethau megis Ffrainc a’r Deyrnas Unedig bellach yn meddu ar yr ewyllys na’r adnoddau i ddal gafael ar eu tiriogaethau tramor helaeth. Mewn rhai achosion, bu i hyn ddigwydd mewn modd cymharol heddychlon, er enghraifft fel yn yr India yn 1947, Tunisia yn 1956, a, Malaysia a Ghana yn 1957. Ond mewn nifer o achosion eraill, dim ond yn dilyn cyfnod hir o wrthryfela arfog y daeth diwedd ar y berthynas drefedigaethol. Er enghraifft, dyma fu’r hanes yn Algeria (1954-62), Vietnam (1946-54) a Kenya (1952-59). Fodd bynnag, yr hyn sy’n arwyddocaol yn y cyswllt hwn, yw’r ffaith bod arweinwyr y mudiadau gwrthdrefedigaethol a gododd ar draws Affrica ac Asia yn ystod y 1950au a’r 1960au wedi mynegi eu dadleuon o blaid torri’n rhydd o’u meistri gorllewinol mewn termau cenedlaetholgar.
Yn wreiddiol, bu i’r dadleuon hyn ddilyn trywydd tebyg i rai cenedlaetholwyr rhyddfrydol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, megis Mazzini, gan bwysleisio’r angen am drefniadau llywodraethol oedd yn cydnabod hawl cyfartal pob cenedl i hunanbenderfyniad. Serch hynny, roedd yr amgylchiadau a wynebwyd gan y mudiadau cenedlaetholgar newydd hyn yn bur wahanol i’r rhai a wynebai genedlaetholwyr ar draws Ewrop ganrif ynghynt. I’r cenedlaetholwyr gwrthdrefedigaethol, roedd cysylltiad agos iawn rhwng eu galwad am annibyniaeth wleidyddol ac ymwybyddiaeth o’r diffyg datblygiad cymdeithasol ac economaidd oedd yn deillio o flynyddoedd o ormes o dan fawd y gwladwriaethau Ewropeaidd. O ganlyniad, daeth cenedlaetholdeb y mudiad gwrthdrefedigaethol i gyfuno ffocws ar y dimensiwn gwleidyddol a chyfansoddiadol gyda phwyslais ar anghydraddoldeb cymdeithasol ac economaidd. O ystyried hyn, nid yw’n syndod bod y ffurf wrthdrefedigaethol ar genedlaetholdeb wedi dod i ddatblygu perthynas agos â syniadau sosialaidd. Yn wir, erbyn y 1960au a’r 1970au, roedd ystod helaeth o fudiadau gwrthdrefedigaethol wedi dod i asio eu dadleuon o blaid ymreolaeth genedlaethol gydag elfennau o’r sosialaeth chwyldroadol a gâi ei harddel gan Marx a Lenin. Un ffactor gyfrannodd at y datblygiad hwn oedd y dybiaeth bod Marcsiaeth yn cynnig dadansoddiad treiddgar o’r anghydraddoldeb a’r ecsploetio a brofwyd fel rhan o’r profiad trefedigaethol. Yn ogystal, roedd Lenin wedi dadlau y dylid dehongli trefedigaethu fel estyniad o’r ecsploetio dosbarth sy’n rhan anochel o gyfalafiaeth – rhywbeth sy’n deillio o angen y gwledydd cyfalafol mawr i ganfod llafur ac adnoddau craidd rhad er mwyn cynnal eu twf economaidd.
Mae’n werth nodi nad dim ond yng nghyd-destun ymgyrchoedd dad-drefedigaethu’r ugeinfed ganrif y gwelwyd ymgais i fynegi dadleuon cenedlaetholgar mewn modd sy’n gorgyffwrdd yn agos â syniadau sosialaidd eu natur. O bosib fel canlyniad i ddylanwad y mudiadau gwrthdrefedigaethol a drafodwyd uchod, fe welwyd ffurf adain chwith ar genedlaetholdeb yn cael ei fynegi gan amryw o’r mudiadau cenedlaetholgar iswladwriaethol a welwyd yn magu momentwm ar draws rhannau o Orllewin Ewrop a Gogledd America o’r 1960au ymlaen. Roedd y mudiad cenedlaetholgar yng Nghymru yn un enghraifft o’r duedd hon, gyda nifer o leisiau dylanwadol yn rhengoedd Plaid Cymru a Chymdeithas yr Iaith yn dadlau y dylid mabwysiadu agenda a oedd yn cyflwyno dadleuon ynglŷn â hunanlywodraeth a phwysigrwydd y Gymraeg mewn termau sosialaidd a oedd yn pwysleisio dylanwad ffactorau economaidd. Gwelwyd tueddiadau tebyg hefyd mewn perthynas â mudiadau cenedlaetholgar mewn llefydd megis Gwlad y Basg a Quebec. Fodd bynnag, dylid gochel rhag casglu bod pob mudiad cenedlaetholgar iswladwriaethol cyfoes wedi gogwyddo i’r chwith, gan y ceir sawl enghraifft o rai sydd wedi dilyn llwybr mwy adain dde.
Mae cenedlaetholdeb yn ideoleg sydd wedi cwmpasu ystod eang iawn o ffrydiau. Yn wir, ar brydiau ymddengys y byddai’n fwy addas i sôn am gyfres o genedlaetholdebau gwahanol yn hytrach na thrin cenedlaetholdeb fel un traddodiad cydlynol. I raddau, gellid cyflwyno dadl o’r fath yn achos bron pob un ideoleg wleidyddol. Er hyn, mae rhywbeth reit unigryw ynglŷn ag ehangder ac amrywiaeth y safbwyntiau gwleidyddol sydd wedi’u cysylltu â chenedlaetholdeb dros y blynyddoedd. Yn wir, ar wahanol adegau mae cenedlaetholdeb wedi cwmpasu syniadau gwleidyddol blaengar ac adweithiol, democrataidd ac awdurdodaidd, rhyddfreiniol a gorthrymol, adain chwith ac adain dde. Mae’r diffyg cysondeb hwn yn deillio, yn rhannol, o’r ffaith bod cenedlaetholdeb wedi datblygu mewn lleoliadau gwahanol o dan amodau hanesyddol a diwylliannol amrywiol iawn. Fodd bynnag, mae hefyd yn adlewyrchu’r ffaith bod cenedlaetholdeb yn ideoleg sydd, dros y blynyddoedd, wedi cael ei asio â chyfres o ideolegau pwysig eraill – yn arbennig rhyddfrydiaeth, ceidwadaeth a sosialaeth – gan amsugno rhai o’u cysyniadau a’u gwerthoedd allweddol. Mae hyn wedi esgor ar gyfres o draddodiadau cenedlaetholgar pur wahanol.