-
Y genedl
Yr egwyddor sylfaenol sy’n sail i bob ffurf ar genedlaetholdeb yw’r gred mai’r genedl yw’r uned wleidyddol greiddiol. Er hyn, mae ceisio egluro beth yn union yw cenedl, ynghyd â beth yw ei nodweddion allweddol, wedi profi’n dasg anodd iawn sydd wedi esgor ar gryn ansicrwydd. Ar y lefel mwyaf cyffredinol, gellir diffinio cenedl fel endid sy’n dwyn ynghyd grŵp o bobl sy’n rhannu iaith, diwylliant, crefydd, arferion traddodiadau a hanes cyffredin, ac sydd hefyd, fel arfer, yn rhannu tiriogaeth gyffredin. Eto i gyd, ni ellir dibynnu’n llwyr ar nodweddion gwrthrychol tebyg i’r uchod er mwyn diffinio cenedl. Mae bron pob cenedl yn cynnwys amrywiaethau ieithyddol, diwylliannol, crefyddol neu ethnig o ryw fath. Enghraifft amlwg o hyn yw’r Swistir, lle ceir ymdeimlad cenedlaethol cryf, ond ar yr un pryd, tair cymuned iaith (Ffrangeg, Almaeneg ac Eidaleg). Ymhellach, ceir sawl enghraifft o genhedloedd gwahanol sy’n rhannu’r un iaith neu’r un grefydd. Er enghraifft ceir ystod eang o genhedloedd sy’n trin y Saesneg, y Ffrangeg neu’r Almaeneg fel ieithoedd cenedlaethol cyffredin. Golyga hyn mai anodd, os nad amhosib, fyddai ceisio llunio un rhestr derfynol a diamod o feini prawf gwrthrychol i’w defnyddio er mwyn sefydlu pryd a ble y gellir datgan bod cenedl yn bodoli.
O ganlyniad, rhaid i unrhyw ymgais i ddiffinio cenedl gyfuno ystyriaeth o nodweddion gwrthrychol, megis iaith, diwylliant, neu draddodiadau cyffredin, gydag ystyriaeth o deimladau goddrychol aelodau’r genedl. Yn y pendraw, fel y dadleuodd yr athronydd a’r hanesydd Ffrengig Ernest Renan (1823-1892), yr hyn sy’n diffinio cenedl (ac yn ei gwahaniaethu o grwpiau cymdeithasol eraill) yw’r ffaith bod crynodiad penodol o bobl yn deisyfu meddwl am eu hunain fel cenedl, ac yn ymrwymo i weithio gyda’i gilydd i sicrhau cydnabyddiaeth ffurfiol o hynny gan eraill. Fel arfer, bydd yr alwad hon am gydnabyddiaeth yn rhoi pwyslais ar ddyhead aelodau’r genedl i gael eu cydnabod fel cymuned wleidyddol unigryw, ac yn sgil hynny, i feddu ar lefel o ymreolaeth wleidyddol. Gall yr ymreolaeth hon gael ei sicrhau trwy sefydlu gwladwriaeth annibynnol, neu trwy drefniant ffederal neu gydffederal mwy cyfyngedig.
Mae’r ffaith bod cenhedloedd yn medru cael eu hadnabod ar sail cyfuniad o ffactorau gwrthrychol a goddrychol wedi arwain rhai ysgolheigion i ddadansoddi’r modd y mae mudiadau cenedlaethol gwahanol wedi dewis diffinio eu cenedl benodol hwy, ynghyd â’r amodau sy’n rhaid eu bodloni er mwyn medru hawlio aelodaeth o’r genedl. Mae hyn wedi esgor ar raniad rhwng cenedlaetholdeb ethnig (neu ethno-ddiwylliannol) a chenedlaetholdeb sifig (neu ddinesig) sydd wedi hawlio lle canolog yn y llenyddiaeth academaidd ar genedlaetholdeb. Trafodir natur y categorïau hyn yn fwy manwl yn Adran 5 ‘Cenedlaetholdeb a’r rhaniad sifig-ethnig’.
-
Ymlyniad cenedlaethol
Tuedd arall sy’n gyffredin ymhlith cenedlaetholwyr o bob math yw’r gred bod y byd wedi’i rannu’n naturiol yn gyfres o genhedloedd gwahanol, gyda phob un yn meddu ar gymeriad a hunaniaeth unigryw. Ymhellach, tuedda cenedlaetholwyr i drin yr ymlyniad sydd gan bobl tuag at eu cenedl fel un sy’n meddu ar arwyddocâd eithriadol ac sy’n sefyll uwchlaw ein hymlyniad tuag at unrhyw endid torfol arall. Tra bod mathau eraill o ymlyniadau, er enghraifft o ran dosbarth, rhyw, crefydd neu iaith, wedi meddu ar arwyddocâd pwysig mewn rhai lleoliadau ar adegau penodol, hawlir bod yr ymlyniad tuag at ein cenedl yn un sy’n meddu ar wreiddiau dyfnach. Dyma ymlyniad sydd wedi goroesi dros amser ac sydd i’w ganfod ym mhedwar ban byd.
-
Sofraniaeth genedlaethol a hunanbenderfyniad
Cam pwysig yn natblygiad cenedlaetholdeb fel ideoleg wleidyddol oedd hwnnw arweiniodd at asio’r syniad o gymuned genedlaethol â’r syniad o sofraniaeth y bobl. Honnwyd bod hyn wedi digwydd yn ystod Chwyldro Ffrainc ac wedi deillio o ddylanwad ysgrifau’r athronydd, Jean Jacques Rousseau (1712-78). Ni fu i Rousseau gyfeirio’n uniongyrchol yn ei waith at y cysyniad o genedl, na chwaith at genedlaetholdeb, fodd bynnag tybir bod ei bwyslais ar yr egwyddor o sofraniaeth y bobl wedi cynnig sail i ddatblygiad syniadaethol pwysig ym maes cenedlaetholdeb. Dadleuodd Rousseau na ddylai sofraniaeth (hynny yw, y grym gwleidyddol eithaf) orwedd yn nwylo brenin hollbwerus, fel oedd yn arferol ar draws rhannau helaeth o Ewrop ar y pryd, ond yn hytrach yn nwylo cymuned o bobl sydd wedi’i huno gan ddiwylliant cyffredin. Dylai’r broses o lywodraethu wedyn gael ei seilio ar ewyllys cytûn y gymuned hon, sef yr hyn y cyfeiriodd Rousseau ato fel ‘yr ewyllys cyffredinol’. Yn arwyddocaol, yn ystod Chwyldro Ffrainc gwelwyd dylanwad y dadleuon hyn yn dod i’r amlwg wrth i’r chwyldroadwyr hawlio mai ‘dinasyddion’ oedd yn meddu ar hawliau sylfaenol oedd holl drigolion Ffrainc, yn hytrach na ‘deiliaid’ (subjects), ac yn sgil hynny, y dylai sofraniaeth orwedd yn eu dwylo hwy, aelodau’r genedl. O ganlyniad, arweiniodd Chwyldro Ffrainc at hyrwyddo’r syniad y dylai trefniadau llywodraethol dilys amcanu at sicrhau bod pobl oedd wedi ymdrefnu’n genedl yn medru llywodraethu eu hunain.
Ar sail y datblygiadau uchod daeth yn fwyfwy arferol i drin cenhedloedd fel yr unedau priodol ar gyfer trefnu cymdeithas wleidyddol. O hyn cododd yr egwyddor y dylai pob cenedl feddu ar yr hawl i hunanbenderfyniaeth. A siarad yn gyffredinol, dehonglwyd yr hawl hon fel un ddylai sicrhau gallu’r genedl i drefnu ei hun yn un gymuned ystyrlon, ac yn dilyn hynny, i feddu ar yr annibyniaeth wleidyddol i lunio’i dyfodol ei hun ar ei thelerau ei hun. Tan yn lled ddiweddar yr arfer fu i dybio bod hunanbenderfyniad, yng ngolwg bron pob cenedlaetholwr, yn gyfystyr â meddu ar yr hawl i sefydlu gwladwriaeth sofran annibynnol. Fodd bynnag, yn ddiweddar dadleuwyd bod nifer o genedlaetholwyr yn dewis dehongli’r egwyddor mewn modd mwy amlweddog. Daw hyn i’r amlwg yn astudiaethau’r gwyddonydd gwleidyddol, Michael Keating, o natur y galwadau cyfansoddiadol a gyflwynir gan y mudiadau cenedlaetholgar sy’n weithredol ar draws rhai o genhedloedd iswladwriaethol Ewrop. Dengys Keating, nad yw nifer helaeth o’r mudiadau hyn, er gwaethaf eu pwyslais ar hunanbenderfyniaeth â’r hawl i fedru llywio eu dyfodol eu hunain, yn amcanu at sefydlu gwladwriaethau annibynnol a sofran yn yr ystyr traddodiadol. Mynna bod eu hamcanion cyfansoddiadol yn fwy penagored na hynny, a’u bod yn effro i’r ffaith bod trefniadau gwleidyddol ac economaidd bellach yn cwmpasu ystod o wahanol haenau – y lleol, y cenedlaethol a’r rhyngwladol. Yn wir, hyd yn oed yn achos mudiadau cenedlaetholgar fel yr un Albanaidd, sy’n amlwg wedi rhoi pwyslais sylweddol ar y syniad o annibyniaeth dros y blynyddoedd diwethaf, fe welir bod nifer o’r modelau o annibyniaeth a gafodd eu cyflwyno wedi cynnwys cynnal rhai cysylltiadau cyfansoddiadol (y Goron) ac economaidd (y bunt) pwysig gyda gweddill y Deyrnas Unedig. Yn yr un modd, mae nifer o’r cynigon ar gyfer annibyniaeth i Quebec a gyflwynwyd gan y Parti Québécois ers diwedd y 1970au (gan gynnwys ar adeg dau refferendwm annibyniaeth yn 1980 a 1995) wedi argymell trefniadau lle byddai sofraniaeth yn cael ei rannu â gweddill Canada.
-
Diwylliant
Tra bo llawer o’r drafodaeth ynglŷn â chenedlaetholdeb wedi canolbwyntio ar y math o alwadau gwleidyddol neu gyfansoddiadol a gaiff eu cysylltu â’r syniadaeth – yn benodol yr alwad am hunanbenderfyniaeth cenedlaethol – rhaid cofio bod y dimensiwn diwylliannol hefyd wedi bod yn ganolog i agenda llawer o fudiadau cenedlaethol. O ganlyniad, nid dim ond sicrhau’r math o sefydliadau llywodraethol a dinesig a fyddai’n caniatáu i’r genedl gael ei thrin fel cymuned wleidyddol yn ei hawl ei hun fu’n mynd â bryd llawer o genedlaetholwyr. Rhoddwyd bri hefyd ar weithgaredd a fyddai’n dyrchafu ac yn cryfhau diwylliant traddodiadol y genedl (neu, fel yn achos nifer o genhedloedd lleiafrifol, adfywio ac ailadeiladu’r diwylliant hwnnw). Yn aml, mae’r gweithgaredd diwylliannol hwn wedi canolbwyntio ar hybu ffyniant yr iaith genedlaethol, er enghraifft trwy ymdrechion i hybu’r defnydd ohoni fel prif gyfrwng y gymdeithas, neu trwy ymdrechion i helaethu ei chorpws (er enghraifft trwy fathu a safoni termau) er mwyn sicrhau ei bod yn gyfrwng sy’n medru cael ei defnyddio’n hwylus i drafod datblygiadau modern.
Yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif daeth yn ffasiynol ymhlith ysgolheigion oedd yn astudio cenedlaetholdeb i ddadlau bod y math diwylliannol hwn o weithgaredd yn tueddu i gael ei ffafrio gan rai mathau penodol o genedlaetholwyr, sef y sawl oedd yn arddel cenedlaetholdeb ethno-ddiwylliannol, tra bod cenedlaetholwyr eraill, sef y sawl oedd yn arddel cenedlaetholdeb dinesig, yn fwy tebygol o ganolbwyntio ar amcanion gwleidyddol oedd yn ymwneud ag adeiladu sefydliadau a fyddai’n sail i egin wladwriaeth newydd. Er enghraifft, gwelwyd hyn yn y duedd i labeli cenedlaetholdeb Cymreig fel un diwylliannol ac ethnig ei natur, yn sgil y pwyslais a roddwyd ar gynnal yr iaith Gymraeg, tra bo cenedlaetholdeb Albanaidd wedi’i labeli’n gyson fel un gwleidyddol neu ddinesig, yn sgil y pwyslais a roddwyd ar gynnal sefydliadau pwysig megis ei system gyfreithiol a’i threfn addysg annibynnol. Fodd bynnag, fel y dangosir yn yr adran nesaf, mae peryg rhoi gormod o bwyslais ar raniadau o’r fath, gan eu bod yn medru gorsymleiddio pethau. Y gwir amdani yw bod cenedlaetholdeb ar waith, bron yn ddi-ffael, yn gyfuniad cymhleth o’r diwylliannol a’r gwleidyddol, yr ethnig a’r sifig.
Fel y gwelwyd yn yr adran flaenorol, mae cenedlaetholdeb yn ideoleg sydd wedi cwmpasu ystod eang ac amrywiol iawn o safbwyntiau gwleidyddol. Ymhellach, mae'r rhain yn safbwyntiau sydd wedi gorgyffwrdd â bron pob un o’r prif draddodiadau ideolegol eraill, gan gynnwys rhyddfrydiaeth, ceidwadaeth, sosialaeth a ffasgaeth. Eto i gyd, er gwaethaf yr ehangder hwn, erys rhai elfennau allweddol y gellir eu trin fel rhai sy’n greiddiol i wleidyddiaeth genedlaetholgar o bob math. Trafodir y pwysicaf o’r elfennau hyn isod.