-
Traddodiad
Mae'r angen i gadw a chynnal ac i osgoi newid gwleidyddol a chymdeithasol sydyn yn thema bwysig iawn i Geidwadwyr, yn enwedig i'r sawl sy'n perthyn i'r ffrwd Draddodiadol. Golyga hyn bod nifer o Geidwadwyr wedi tueddu i roi pwyslais ar y syniad o draddodiad; hynny yw bod angen parchu a rhoi bri ar wahanol sefydliadau neu wahanol arferion sy'n meddu ar hanes hir.
I ddechrau, fel y dadleuodd Edmund Burke, trwy oroesi dros gyfnod o ddegawdau, neu hyd yn oed ganrifoedd, mae rhai o'n sefydliadau a'n harferion cymdeithasol wedi profi bod iddynt rinweddau. Mae'r ffaith syml eu bod wedi llwyddo i oroesi cyhyd yn brawf eu bod yn medru gweithio'n dda a bod pobl yn gweld gwerth iddynt. Ymhellach, yn sgil eu hirhoedledd, maent wedi dod i ymgorffori doethineb a phrofiad hanesyddol pwysig. O ganlyniad, dadleuir y dylai sefydliadau ac arferion cymdeithasol gwahanol gael eu cynnal a'u datblygu, nid yn unig er budd cenhedlaeth heddiw, ond hefyd er budd cenedlaethau'r dyfodol. Gwelir rhai o'r syniadau hyn ar waith wrth ystyried sut y mae rhai Ceidwadwyr yn y Deyrnas Unedig wedi dadlau o blaid parhad y frenhiniaeth. Fel rhan o'r dadleuon hyn ceir cyfeiriadau mynych at y ffaith bod y frenhiniaeth yn sefydliad sy'n meddu ar hanes hir a'i fod, yn sgil hyn, yn sefydliad sydd yn meddu ar stôr o ddoethineb a phrofiad gwleidyddol a chyfansoddiadol pwysig.
Yn ogystal, mae'r pwyslais Ceidwadol ar draddodiad yn deillio o'r gred ei fod yn medru cyfrannu at gynnal ymdeimlad o berthyn a sefydlogrwydd ymhlith aelodau cymdeithas. Tybir bod bodolaeth ystod o arferion cymdeithasol a diwylliannol sy'n gyfarwydd i bobl ac sy'n meddu ar gefndir hanesyddol hir yn atgyfnerthu'r syniad bod unigolion wedi'u gwreiddio yn y gymdeithas ac yn meddu ar gysylltiad pendant a'r cenedlaethau a ddaeth o'u blaen. Ymhellach, dadleuir bod y ffaith fod rhai o'r arferion hyn yn bethau sy'n medru cael eu harddel gan aelodau cymdeithas ar y cyd yn medru hybu ymdeimlad o undod neu gydlyniad cymdeithasol.
Yn gyffredinol, mae'r pwyslais ar draddodiad yn amlygu gwahaniaeth pwysig rhwng Ceidwadwyr a Rhyddfrydwyr. Tuedda rhyddfrydwyr i fesur gwerth sefydliadau neu arferion cymdeithasol ar sail eu gallu i wasanaethu anghenion unigolion, yn hytrach nag ar sail eu hoed a’u hanes – os nad yw sefydliadau yn gwasanaethu’r anghenion hyn, yna dylid eu diwygio neu eu diddymu. Anghytuna Ceidwadwyr, fodd bynnag, a dadleuant fod y ffaith fod sefydliad neu arfer penodol wedi goroesi dros amser yn ei hun yn ddigon o reswm i'w mawrygu a'u parchu.
-
-
Pragmatiaeth
Bu tuedd ymhlith Ceidwadwyr i gwestiynu os oes modd i fodau dynol ddefnyddio eu gallu i resymu er mwyn magu dealltwriaeth gyflawn o'r byd â'i holl gymhlethdodau. O ganlyniad mynegwyd amheuon mawr ynglŷn â gwerth dyrchafu corff o egwyddorion haniaethol, megis rhyddid, cydraddoldeb neu oddefgarwch, fel canllawiau i'n harwain wrth ymhél â gwleidyddiaeth ac wrth benderfynu sut ddylid trefnu cymdeithas. Yn hytrach na rhoi pwyslais ar egwyddorion haniaethol, mae nifer o Geidwadwyr wedi pwysleisio’r angen i roi ffydd yn ein profiad ymarferol, gan ymddwyn mewn modd pragmataidd. Golyga hyn y dylai ein penderfyniadau a'n gweithredoedd gwleidyddol gael eu llywio gan ystyriaeth o'r hyn sy'n ymddangos yn ymarferol ac yn briodol ar y pryd, yn hytrach na gan gorff o ragdybiaethau cyffredinol. Mewn geiriau eraill dylid ffafrio beth bynnag sy'n debygol o 'weithio', beth bynnag fo hynny. Un Ceidwadwr adnabyddus a gaiff ei gysylltu â'r safbwynt hwn yw’r Sais, Michael Oakshott (1901-1990). Yn ei dyb ef mae’r byd yn lle llawer rhy gymhleth i gael ei drefnu ar sail corff o egwyddorion haniaethol. Yn wir, mae’r pwyslais ar bragmatiaeth wedi cymell amryw o Geidwadwyr i honni nad ydynt hwy yn arddel ideoleg wleidyddol mewn gwirionedd. Yn hytrach, mae’n well gan feddylwyr megis Oakshott i ddisgrifio Ceidwadaeth fel ‘ffordd o feddwl’ neu ‘ffordd o fyw’, lle bo gwybodaeth yn rhywbeth ‘ymarferol’ a gaiff ei ddatblygu trwy brofiad bywyd, yn hytrach na rhywbeth ‘technegol’ a gaiff ei gronni trwy astudio gwerslyfrau a ffynonellau ysgrifenedig.
Tra bod pragmatiaeth yn nodwedd sydd, yn draddodiadol, wedi hawlio lle canolog yn y byd-olwg Ceidwadol, mae'n bwysig nodi nad ydyw’n hawlio lle mor flaenllaw mewn trafodaethau Ceidwadol mwy diweddar. Yn wir, mae'r pwyslais a roddir ar egwyddorion sylfaenol yn un o'r nodweddion sy'n gwahaniaethu'r Dde Newydd, a ddaeth i amlygrwydd yn ystod ail hanner yr Ugeinfed Ganrif o amryw o ffrydiau Ceidwadol cynharach, megis y ffrwd Draddodiadol. Er enghraifft yn achos neo-Geidwadwyr a neo-Ryddfrydwyr megis von Hayek, Freedman a Nozick, caiff yr angen i gyfyngu yn sylweddol ar rôl weithredol y wladwriaeth, yn arbennig o fewn yr economi, ei drin fel egwyddor sylfaenol y dylid glynu’n driw ato. Fodd bynnag, yn nhyb Ceidwadwyr Tadol, megis cyn-Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, Harold Macmillan, dylid gochel rhag caniatáu i ddylanwad y wladwriaeth ymestyn yn rhy eang, ond ar yr un pryd dylid ystyried caniatáu i'r wladwriaeth ymyrryd mewn meysydd cymdeithasol neu economaidd os oes achos pragmataidd dros wneud hynny.
-
Amherffeithrwydd dynol
Mae Rhyddfrydiaeth a Sosialaeth yn ideolegau gwleidyddol sy'n tueddu i ddehongli bodau dynol fel creaduriaid ‘da’ o ran natur neu sydd, o leiaf, yn meddu ar y potensial i fod yn ‘dda’, cyhyd ag y bod eu hamgylchiadau cymdeithasol yn caniatáu hynny. Mae Ceidwadwyr, fodd bynnag, yn tueddu i wrthod tybiaethau o’r fath ac yn meddwl amdanom fel bodau amherffaith, ffaeledig. Mae’r pwyslais yma ar natur amherffaith bodau dynol yn amlygu ei hun mewn ystod o ffyrdd gwahanol.
I ddechrau, dadleir mai cyfyngedig yw ein dealltwriaeth o'r byd a'i gymhlethdodau. Mae hyn yn cysylltu'n ôl â'r pwyslais cynharach ar bragmatiaeth. Gan nad oes ganddom y gallu i ddeall y byd yn llawn, ofer yw ceisio trefnu cymdeithas ar sail cyfres o egwyddorion haniaethol. Gwell yw gweithredu’n bragmataidd ar sail yr amgylchiadau a wynebwn ar y pryd.
Yn ail, dadleuir fod bodau dynol yn meddu ar wendidau seicolegol pwysig. Hawlir ein bod, ar y cyfan, yn greaduriaid sy'n gochel rhag unigrwydd a diffyg sefydlogrwydd a'n bod, o ganlyniad, yn crefu diogelwch a sicrwydd. Diddorol yw cyferbynnu’r darlun ansicr hwn o unigolion â’r darlun rhyddfrydol o unigolion hyderus sy’n meddu ar y gallu i osod cwrs ar gyfer eu bywydau eu hunain. Y gred yma bod unigolion yn chwennych sicrwydd ac ymdeimlad o berthyn sydd wedi arwain Ceidwadwyr i roi pwyslais mawr ar drefn, gan osod hyn uwchlaw rhyddid ar brydiau.
Yn drydydd, mae tuedd ymhlith Ceidwadwyr i hawlio bod bodau dynol yn meddu ar ffaeleddau moesol. Mynnir mai creaduriaid hunanol a barus ydym yn y bôn sy’n tueddu i chwennych grym. Mae cred o’r fath yng ngwendid moesol yr unigolyn wedi arwain nifer o Geidwadwyr i wrthod y gred bod trosedd ac anhrefn cymdeithasol yn bethau sy’n deillio o amgylchiadau cymdeithasol anffodus, megis tlodi neu anghydraddoldeb. Yn hytrach honnir eu bod yn bethau sy’n deillio o wendid moesol sylfaenol ar ran yr unigolyn. Yn fwy aml na pheidio, mae’n bosib olrhain sail y dehongliad yma yn ôl at syniadau am y pechod gwreiddiol, a’r dehongliad Cristnogol o’r natur ddynol (yn gysylltiedig gydag athronwyr megis Awstin Sant) sy’n ystyried bod bodau dynol yn greaduriaid llygredig sydd wedi etifeddu gwendid ac euogrwydd Adda ac Efa. Dyma reswm pellach felly pam fod ceidwadwyr yn tueddu i roi pwyslais ar yr angen am drefn ac am lywodraeth sy'n gweinyddu system gyfiawnder lem er mwyn cynnal y drefn honno.
-
Cymdeithas organig
Yn draddodiadol mae Ceidwadwyr wedi rhoi pwyslais ar y syniad fod pob unigolyn wedi'i wreiddio o fewn cymdeithas. Mynnwyd nad yw'n gwneud synnwyr i feddwl am yr unigolyn fel creadur sy'n medru bodoli ar wahân i gymdeithas. Yn hytrach, caiff pawb eu geni i fod yn aelodau o endidau cymdeithasol mwy, er enghraifft y teulu, y gymuned neu'r genedl. Mae cysylltiadau o'r fath yn cyfrannu at ein cynnal, at siapio ein cymeriadau, ac yn cyfrannu at feithrin yr ymdeimlad o berthyn sydd, yn nhyb Ceidwadwyr, yn hollbwysig. Yn wir, y dehongliad hwn o arwyddocâd y cysylltiad rhwng yr unigolyn a'r gymdeithas ehangach sydd wedi peri nifer o Geidwadwyr i ymateb i'r pwyslais rhyddfrydol ar ryddid yr unigolyn trwy ddadlau bod hefyd angen cofio am ddyletswyddau neu ymrwymiadau’r unigolyn tuag at y gymdeithas.
Felly, mae lles y gymdeithas fel endid cyffredinol wedi bod yn ystyriaeth bwysig o fewn y traddodiad Ceidwadol, yn arbennig ymhlith aelodau’r ffrwd Draddodiadol. Wrth nodi hyn mae'n werth hefyd tynnu sylw at y dehongliad penodol o natur cymdeithas sydd wedi cael ei arddel. Yn draddodiadol, mae Ceidwadwyr wedi dehongli cymdeithas fel endid organig: endid byw lle mae rhannau gwahanol yn gweithio gyda'i gilydd yn union fel y gwana'r galon, yr ysgyfaint, yr afu a'r ymennydd yn y corff dynol. Yn achos y corff, mae angen i bob un o'r organau hyn weithio gyda'i gilydd mewn cytgord neu bydd y cyfan yn methu. Yn nhyb nifer o Geidwadwyr, mae'r un peth yn wir wrth feddwl am gymdeithas. Tybir bod elfennau allweddol megis y teulu, y gymuned leol, yr eglwys, ynghyd ag ystod o sefydliadau traddodiadol eraill, yn gweithredu fel organau sy'n cynnal bywyd y gymdeithas ac yn sicrhau ei fod yn rhedeg yn esmwyth o ddydd i ddydd. O ganlyniad, bu tuedd ymhlith Ceidwadwyr i wrthwynebu datblygiadau sy'n peri newid i natur neu swyddogaeth rhai o'r sefydliadau hyn. Er enghraifft yn achos y teulu mynegwyd pryder ynglŷn â datblygiadau megis y newid ym mhatrymau gwaith rhieni, y newid mewn arferion magu plant, ac yn fwyaf arwyddocaol, y newid yn ein dehongliadau o beth yw ffurf yr uned deuluol a phwy all fod yn rhieni. Yn nhyb y Ceidwadwyr gallai camau o'r fath beryglu'r ffabrig bregus sy'n cynnal cymdeithas.Yn ystod y degawdau diweddar mae'r dehongliad organig o gymdeithas wedi hawlio lle ychydig yn llai blaenllaw mewn trafodaethau Ceidwadol. Deillia hyn yn bennaf o dwf y Dde Newydd a'r modd y mae cangen neo-ryddfrydol y ffrwd hon wedi tynnu'n groes i nifer o dybiaethau Ceidwadol mwy traddodiadol ynglŷn â natur cymdeithas. Yn y cyswllt presennol yr hyn sy'n arwyddocaol yw bod tuedd y Dde Newydd neo-ryddfrydol i gofleidio'r unigolyddiaeth haniaethol a fu cynt yn nodwedd mor amlwg o Rhyddfrydiaeth Glasurol, wedi arwain at fagu byd-olwg sydd, i bob pwrpas, yn ymwrthod â'r syniad o gymdeithas fel endid cyfansawdd, cydweithredol. Fel yr hawliodd Margaret Thatcher, un o'r gwleidyddion blaenllaw sy'n perthyn i draddodiad y Dde Newydd, nid oes y fath beth â chymdeithas, dim ond casgliad o unigolion a'u teuluoedd.
-
-
Hierarchaeth
Yn draddodiadol, mae Ceidwadwyr wedi dadlau bod hierarchaeth ac anghydraddoldeb yn nodweddion anochel o fewn unrhyw gymdeithas. Golyga hyn eu bod yn tybio bod sicrhau cydraddoldeb cymdeithasol ystyrlon, er enghraifft o ran statws, cyfoeth neu rym, yn amcan cwbl amhosib. Yn hynny o beth, ceir elfen o orgyffwrdd rhwng Ceidwadaeth a Rhyddfrydiaeth. Fodd bynnag, tra bo Rhyddfrydwyr yn trin bodolaeth anghydraddoldeb fel cyfaddawd sy'n rhaid ei dderbyn er mwyn caniatáu ar gyfer amrywiaethau o ran chwaeth neu allu ymhlith gwahanol unigolion, tuedda Ceidwadwyr i'w ddehongli fel rhywbeth dyfnach sy'n allweddol i weithrediad cymdeithas – i bob pwrpas, rhywbeth y dylid ei ddehongli mewn termau cadarnhaol.
Mae'r arfer o drin anghydraddoldeb cymdeithasol fel nodwedd naturiol a chadarnhaol yn deillio o'r ddelwedd organig sy'n rhan o'r byd-olwg Ceidwadol. Fel yr eglurwyd eisoes, mae nifer o Geidwadwyr wedi dewis dehongli cymdeithas fel endid byw lle fo rhannau gwahanol yn gweithio gyda'i gilydd yn union fel y gwana organau gwahanol yn y corff dynol. Yn achos y corff, mae pob un o'r organau hyn yn cyflawni swyddogaeth benodol, ac mae Ceidwadwyr wedi dadlau y dylid meddwl am wahanol grwpiau neu ddosbarthiadau o fewn cymdeithas yn yr un modd. Ceir atsain amlwg o syniadau’r athronydd Groegaidd Plato yn y weledigaeth hon. Mynnodd Plato bod aelodau cymdeithas yn perthyn yn naturiol i un o dri grŵp gwahanol: i) y Brenin Athronwyr sy’n rheoli ar sail eu doethineb; ii) y milwyr, sy’n gwarchod y ddinas ar sail eu hysbryd; iii) a’r masnachwyr, sy’n creu cyfoeth ac yn cynnal bywyd y ddinas ar sail eu tuedd i chwennych mwy.
Ar sail y gred bod gan bawb o fewn cymdeithas eu lle a’u swyddogaeth naturiol mae ceidwadwyr wedi mynnu bod yn rhaid derbyn y dylai rhai arwain tra bo eraill yn dilyn; y dylai rhai reoli tra bo eraill yn gweithio; neu y dylai rhai fynd allan i ennill cyflog tra bo eraill yn aros adref i fagu plant. Syniadau tebyg i hyn oedd yn gyfrifol am y ffaith bod Ceidwadwyr Traddodiadol cynnar fel Edmund Burke wedi dadlau o blaid y syniad o 'aristocratiaeth naturiol', sef y dybiaeth bod y gallu a'r doethineb i ysgwyddo swyddi adweinyddol o fewn cymdeithas yn rhywbeth cynhenid sy'n perthyn i rai dosbarthiadau uwch yn unig. Ymhellach, mae'r gred mewn hierarchaeth neu anghydraddoldeb naturiol wedi arwain at ddull nodweddiadol Geidwadol o gyfiawnhau polisïau sydd â'r nod o estyn cymorth i aelodau llai ffodus cymdeithas. Yn wahanol i Ryddfrydwyr neu Sosialwyr, nid ar sail ystyriaethau sy'n ymwneud â rhyddid neu gydraddoldeb y gwneir hyn, ond yn hytrach trwy bwysleisio mai braint a dyletswydd y cyfoethog yw estyn cymorth i'r tlawd. Er enghraifft, roedd hyn yn nodwedd amlwg o ddadleuon Benjamin Disraeli, y Prif Weinidog Ceidwadol o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a gyflwynodd fesurau mewn meysydd megis tai a iechyd i wella amgylchiadau'r dosbarth gweithiol.
-
Awdurdod
Caiff y gred uchod mewn hierarchaeth a natur anochel anghyfartaledd ei hatgyfnerthu gan y pwyslais Ceidwadol ar awdurdod. Tuedda Ceidwadwyr i ddehongli awdurdod fel rhywbeth naturiol sydd, fel cymdeithas ei hun, eisoes yn bodoli ac sy'n cael ei osod arnom 'oddi fry'. O ganlyniad, yn wahanol i Ryddfrydwyr, nid yw Ceidwadwyr o'r farn bod arddel awdurdod dilys yn ddibynnol ar dderbyn cydsyniad clir gan y sawl sydd i ufuddhau. Mynnir y byddai hyn yn ddiystyr, gan mai rôl y sawl sy'n dal awdurdod yw darparu arweiniad, cefnogaeth a chymorth i'r sawl sydd ddim y meddu ar y gallu, y wybodaeth neu'r profiad i benderfynu dros eu hunain. O ganlyniad, yn y cartref dylai rhieni arddel awdurdod mewn perthynas â'u plant; yn yr ysgol dylai'r athro arddel awdurdod mewn perthynas â'r disgyblion; yn y gweithle dylai'r rheolwr arddel awdurdod mewn perthynas â'i weithwyr; ac yn achos cymdeithas dylai llywodraeth arddel awdurdod mewn perthynas â dinasyddion unigol.
Nid yw’r syniad o awdurdod sy’n deillio ‘oddi fry’ yn cael ei weld gan Geidwadwyr fel rhywbeth drwg. Yn hytrach, credir ei fod yn cyfrannu at hybu sefydlogrwydd cymdeithasol, gan greu ymdeimlad ymhlith y boblogaeth o’r hyn sy’n ddisgwyliedig ganddynt. Yn ogystal, mynnir bod awdurdod clir yn cyfrannu at hybu disgyblaeth. Am y rhesymau hyn, mae Ceidwadwyr wedi tueddu i fod yn garfan sy'n amheus o ymdrechion i herio awdurdod gwleidyddol. Yn wir, yn achos Ceidwadwyr Awdurdodaidd y bedwaredd ganrif ar bymtheg byddai gwneud hyn yn gwbl annerbyniol gan eu bod yn trin awdurdod gwleidyddol beth bynnag fo'u ffurf fel rhywbeth cwbl absoliwt.
-
Eiddo
Mae Ceidwadwyr yn gyffredinol yn rhoi pwyslais mawr ar y cysyniad o eiddo. Credant fod sawl rhinwedd yn perthyn i’n gallu i fod yn berchen ar eiddo neu asedau preifat. Fel nifer o Ryddfrydwyr, mae Ceidwadwyr yn cydnabod y ddadl bod perchnogaeth ar eiddo yn fynegiant o haeddiant; hynny yw, bod y ffaith bod unigolyn yn llwyddo i gywain stoc sylweddol o eiddo neu gyfoeth yn deillio o'i barodrwydd i ymdrechu trwy ei fywyd ac i ddefnyddio ei dalentau personol mewn modd adeiladol. Fodd bynnag, mae nifer o Geidwadwyr wedi dadlau bod buddion cymdeithasol a seicolegol ehangach hefyd yn deillio o berchnogaeth ar eiddo.
I ddechrau, mae meddu eiddo megis tŷ a char, neu feddu ar gynilon sylweddol yn y banc yn estyn elfen o sicrwydd i bobl gan eu bod yn adnoddau y gellir troi atynt i'n cynnal os ydym yn digwydd wynebu amgylchiadau anodd (e.e. diweithdra neu salwch tymor tir). Yn ail, honnir bod cymdeithas sy'n caniatáu perchnogaeth ar eiddo preifat yn un sy'n cymell ei haelodau i barchu'r gyfraith ac ymddwyn mewn modd trefnus. Tybir bod y sawl sy'n berchen ar eiddo eu hunain yn debygol o barchu eiddo eu cyd-ddinasyddion. Byddant yn gwerthfawrogi'r angen i warchod eiddo trwy gynnal trefniadau sy'n atal trosedd ac yn cynnal trefn. Yn drydydd, ar lefel ddyfnach a mwy personol, dadleuir bod meddu ar eiddo yn fodd o ganiatáu i unigolion fynegi eu personoliaeth; hynny yw bod ein heiddo bron yn estyniad arnom ni ein hunain ac yn gyfrwng ar gyfer cyfleu ein cymeriad.
Eto i gyd, er y pwyslais ar gyfraniad cymdeithasol eiddo preifat, yn draddodiadol nid yw Ceidwadwyr wedi dadlau y dylai perchnogaeth yr unigolyn o’i eiddo gael ei gydnabod fel hawl absoliwt. Yn hytrach, mynnwyd bod hawl yr unigolyn i reoli ei asedau a’u gyfoeth yn fater y dylid ei gydbwyso gyda dyletswyddau’r unigolyn hwnnw i’r gymdeithas yn fwy cyffredinol. Fodd bynnag, wrth i syniadau’r Dde Newydd ennill tir dros y degawdau diwethaf (ac yn benodol wrth i adain neo-ryddfrydol y mudiad hwnnw sicrhau dylanwad cynyddol) gwelwyd nifer cynyddol o geidwadwyr cyfoes yn magu agwedd mwyfwy digyfaddawd ar fater eiddo preifat.
Er y gwahaniaethau pwysig a geir rhwng gwahanol ffrydiau, gellir nodi rhai elfennau sydd yn tueddu i gael eu cysylltu â’r byd-olwg Ceidwadol; elfennau sy’n caniatáu i ni wahaniaethu rhywfaint rhwng Ceidwadaeth ag ideolegau gwleidyddol eraill, yn arbennig Rhyddfrydiaeth neu Sosialaeth.