-
Amlddiwylliannedd: amrywiaeth, integreiddio, mewnfudo
Ers yr Ail Ryfel Byd yn arbennig, nodweddir cymdeithasau gan newidiadau sylweddol yn eu poblogaethau wrth i bobl fudo o un wlad i’r llall. Yn aml iawn, digwyddodd y broses hon oherwydd anghenion gwladwriaethau megis y Deyrnas Unedig a’r Almaen, wrth iddynt ymdrechu ail-greu ac ailsefydlu eu hunain wedi’r rhyfel, yn rhannol trwy ddenu gweithwyr o rannau eraill o’r byd. Yn achos y Deyrnas Unedig, gwelwyd niferoedd sylweddol yn cyrraedd o gyn-wledydd yr Ymerodraeth – pobloedd o dras a chrefyddau gwahanol. Mae’r ymateb ymysg ceidwadwyr Prydeinig wedi amlygu’r gwahaniaethau a’r tensiynau rhwng y sawl sydd yn fwy awdurdodaidd a gwrthwynebus i newid, a’r sawl sydd yn fwy goddefgar ac yn barod i gofleidio diwyg o fewn y gymdeithas. Daeth tensiynau i’r amlwg yn y 1960au wrth i nifer ddechrau poeni am sgil effeithiau’r newid, a mynegwyd yr amheuon yma yn araith enwog Enoch Powell, a ddyfynnodd linell gan Virgil yn rhagweld yr Afon Tiber yn ‘ewynnu gan waed’. Dadl Powell oedd bod y gymdeithas yn newid i’r fath raddau nad oedd pobl bellach yn ei hadnabod fel eu cymdeithas nhw, ac mae gwrthdaro oedd canlyniad anochel y broses. Fe’i gwaharddwyd o Gabinet cysgod y Ceidwadwyr, ond dychwelyd y byddai’r themâu yn ei araith.
Erbyn diwedd yr 20fed ganrif roedd rhyddfrydwyr yn arbennig wedi datblygu’r cysyniad o amlddiwylliannedd fel modd o gyfiawnhau a dadlau’r achos dros sicrhau hawliau i grwpiau lleiafrifoedd, gan ddangos nad oedd cynnal eu gwerthoedd a’u ffordd o fyw mewn tensiwn gyda gwerthoedd traddodiadol y gorllewin. Derbyniwyd y safbwyntiau i raddau gan geidwadwyr cymedrol, ond daeth tro ar fyd wedi’r ymosodiadau terfysgol ar y World Trade Center, a’r rhyfel ar derfysgaeth a ddilynodd. Rhoddwyd y bai gan nifer ar y methiant i integreiddio aelodau o’r gymuned Fwslimaidd yn y diwydiant ehangach, ac yn wir dyma ddadleuon y Prif Weinidog David Cameron yn 2011, er gwaetha’r ffaith ei fod yn unigolyn â safbwyntiau Ceidwadol traddodiadol, yn hytrach nag awdurdodaidd. Brigodd yr agweddau yma i’r wyneb yn ystod y trafod cyn refferendwm Brexit yn 2016, a mewnfudo yn bwnc llosg mawr wrth i’r sawl a oedd yn ymgyrchu o blaid ymadael yn rhoi’r bai am broblemau’r wladwriaeth ar fewnfudwyr. Gwelwyd rhaniadau ymysg Ceidwadwyr yn y blynyddoedd yma, gyda nifer yn troi at UKIP, a oedd yn mynegi syniadau llawer mwy awdurdodaidd, ymosodol a oedd yn dwyn Enoch Powell i gof. Roedd y Blaid Geidwadol ei hun wedi’i chwalu’n ddwy yn ogystal, a David Cameron erbyn hyn yn ei gweld hi’n anodd atal llif y syniadau asgell dde fwy eithafol. Yn amlach na pheidio, rhamantu am Brydain ‘coll’, difaru colled cymdeithasau a fu, a chwyno am danseilio cynyddol y Brydain draddodiadol oedd wrth wraidd y trafod – gan arddangos cymysgedd pwerus o geidwadaeth ramantaidd ac awdurdodaidd. Sgil effaith y newid yma yw nid yn unig y bleidlais Brexit i ymadael, ond hefyd newidiadau polisi er mwyn creu ‘amgylchedd gelyniaethus’ i fewnfudwyr. O ganlyniad mae nifer fawr o’r genhedlaeth hyn – ‘cenhedlaeth Windrush’ – a gyrhaeddodd o’r Caribî o’r 1940au ymlaen, wedi’u gwahardd o’r wlad oherwydd diffygion yn eu gwaith papur.
-
Lles: ailddosbarthiad a gwaith
Un o gonglfeini’r meddwl ceidwadol yw’r ffydd yn y cysyniad o gyfrifoldeb unigol. Hynny yw, bydd y Ceidwadwr yn gyffredinol yn credu ein bod ni fel bodau dynol yn rheoli ein gweithredoedd ac yn rheoli ein hamgylchiadau, heb ryw lawer iawn o ddylanwad o gyfeiriadau eraill. Ar y cyfan, bydd y Ceidwadwr traddodiadol yn ystyried y gwaith caled mae’n ei wneud, yr enillion mae’n cynilo, a’r parch mae’n ennyn o’i weithredoedd pob dydd yn ganlyniad uniongyrchol o’i ymdrechion nhw. Mae hyn mewn perthynas groes gyda sosialaeth, sydd yn ystyried y canlyniadau yma yn rhai sydd yn adlewyrchu ffawd dda'r unigolyn – y ffaith bod ganddo, er enghraifft, deulu cefnogol, digon o adnoddau, a galluoedd mae wedi’u hetifeddu. Am y rheswm yma nid yw’r sosialydd yn ystyried bod gennym hawl syml i gadw ein holl enillion – i ryw raddau maent yn ganlyniad i lwc sydd tu hwnt i’n hymdrechion a chyfrifoldeb fel unigolyn, ac i raddau hefyd nid yw llewyrch o unrhyw fath yn bosib heb ddibynnu ar y gymdeithas ehangach. Ar y llaw arall, bydd y ceidwadwr yn mynnu mai ef neu hi sydd yn haeddiannol a bod yr eiddo rydym wedi creu neu ennill trwy ymdrechion ni’n hunan i aros gyda ni.
Ceir goblygiadau amlwg o safbwynt syniadau megis treth, addysg a gwaith. I’r Ceidwadwr, lleiafswm o dreth dylem dalu oherwydd nid oes gan eraill yr hawl dros ein heiddo ni na chwaith y cyfoeth rydym yn creu trwy ein llafur. Dylem fod a rhwydd hynt i osod ein plant mewn ysgolion preifat gyda chyfleusterau anhygoel, oherwydd lle bod rhieni’n fodlon talu’r fath arian am addysg, a rhoi’r manteision mwyaf posib i’w plant, y mae eu dymuniadau nhw’n drech nag unrhyw ystyriaeth wrth sicrhau cydraddoldeb yn y gymuned. Yn wir, nid oes goblygiadau moesol problematig i’r Ceidwadwr os yw’r math yma o arfer a pholisi yn arwain at gymdeithas anghyfartal iawn dros amser, oblegid y mae hierarchaeth iddyn nhw yn rhan nodweddiadol o’r gymdeithas ddynol. Nid canlyniad gwahanol gyfleoedd, neu adnoddau gwell neu fanteision materol yw anghydraddoldeb cymdeithasol, ond prawf bod yna wahaniaethau sylfaenol yn bodoli rhwng galluoedd pobl.
Y Teulu a’r Eglwys: Priodas Hoyw
Daeth enghraifft ddiddorol o’r berthynas rhwng gwleidyddiaeth geidwadol, y teulu a’r Eglwys i’r amlwg yn 2014, pan gyfreithlonwyd priodas gyfunrywiol yn y Deyrnas Unedig. Y Llywodraeth Geidwadol oedd yn gyfrifol am y ddeddfwriaeth, oedd yn caniatáu'r un hawl i gyplau oedd tan hynny yn gymwys am undeb sifil yn ei le. Roedd y ddeddfwriaeth honno wedi dod i rym yn 2004, o dan lywodraeth Lafur, ac felly i bob pwrpas ymestyn yr egwyddor honno i briodas a wnaethpwyd gan y Ceidwadwyr. Nid newid radical mohoni, felly. Ac eto, roedd yn golygu o hynny ymlaen bod gan sefydliadau crefyddol y cyfle i ddewis cynnig yr opsiwn o briodas swyddogol o barau cyfunrywiol. Prin iawn y mae’r enghreifftiau cyn belled fodd bynnag, gyda’r Crynwyr a’r Undodwyr ymysg yr ychydig grwpiau i benderfynu gwneud. Y mae’r Eglwys Anglicanaidd wedi gwrthod newid ei arfer, sydd yn ategu’r ffaith ei bod yn ystyried y cwestiwn o safbwynt gwahanol i’r Blaid Geidwadol, ei chefnogwyr traddodiadol. Ni chyfiawnhawyd y ddadl gan David Cameron, arweinydd y blaid, ar sail y cysyniad mwy asgell chwith o gydraddoldeb cymdeithasol, fodd bynnag. Yn hytrach fe apeliodd at werthoedd ‘traddodiadol’ ceidwadol trwy bwysleisio’r gred ym mhwysigrwydd priodas a theulu fel sefydliadau sydd yn hoelion wyth y gymdeithas. Dyma arddangos pragmatiaeth geidwadaeth ar achlysur, a’r parodrwydd i weld newid ‘organig’ yng nghymdeithas a thraddodiad. Rhaid cofio, wrth gwrs, nid felly y mae pob gwedd ar geidwadaeth yn ystyried y sefyllfa, gyda’r duedd fwy awdurdodaidd ymhlith aelodau’r Dde newydd neo-geidwadol (yn enwedig yn America) i ddadlau bod angen gwarchod rhag unrhyw newid i sefydliadau neu strwythurau cymdeithasol traddodiadol, gan fod hyn yn debyg o danseilio awdurdod ac arwain at ddiffyg trefn.