Realaeth Wleidyddol a’i Gwreiddiau

    Ni cheir ideoleg neu ddamcaniaeth benodol sy’n dwyn yr enw ‘Ceidwadaeth’ ym maes cysylltiadau rhyngwladol, ac eto mae sawl meddyliwr a thraddodiad deallusol yn y maes sy’n arddel syniadau Ceidwadol eu natur. Yn wir, mae Realaeth, y safbwynt sydd wedi dominyddu trafodaethau ar wleidyddiaeth ryngwladol ers degawdau yn ategu a nifer o syniadau a gwerthoedd Ceidwadol, er enghraifft pragmatiaeth, cred yn amherffeithrwydd y cymeriad dynol a hefyd pwyslais ar drefn ac awdurdod.

    Mae ysgolheigion sy’n astudio cysylltiadau rhyngwladol wedi olrhain gwreiddiau'r traddodiad Realaidd yn ôl dros nifer o flynyddoedd. Cyfeirir yn aml at Thucydides, yr hanesydd a’r cadfridog Athenaidd o’r 5ed ganrif CC, fel tad Realaeth. Ef oedd awdur y gyfrol hanesyddol ‘Hanes Rhyfel y Peloponesos’ ac fe gaiff un bennod adnabyddus o’r gyfrol honno – Deialog Melios – ei chydnabod fel clasur, sy’n adrodd cyfrolau am natur gwleidyddiaeth ryngwladol. Yn ogystal, ystyrir Awstin Sant, yr athronydd a’r diwinydd a gyrhaeddodd uchelfannau’r Eglwys Gristnogol yn ystod y 5ed ganrif fel dylanwad pwysig – yn benodol ei bwyslais ar natur ffaeledig a llygredig y cymeriad dynol. Ffigur arall o bwys yw’r Eidalwr, Niccolo Machiavelli (1469-1527), awdur y gyfrol adnabyddus, ‘Y Tywysog’ – math o ganllaw i arweinwyr gwleidyddol oedd yn dadlau y dylent fod yn barod i gymryd pa bynnag gamau oedd eu hangen er mwyn cynnal eu grym a’u dylanwad. Yn olaf, cyfeirir yn aml at syniadau’r Sais, Thomas Hobbes, ac yn enwedig ei ddarlun o fywyd yn y ‘cyflwr naturiol’ – cyflwr cymdeithasol dychmygol a nodweddwyd gan wrthdaro parhaol yn sgil absenoldeb unrhyw awdurdod gwleidyddol.

  • Realaeth yr 20fed Ganrif

    Er bod ei wreiddiau yn ymestyn yn ôl ymhell i’r gorffennol, yn ystod yr ugeinfed ganrif y gwelwyd Realaeth yn datblygu i fod yn gorff cydlynol o syniadau sy’n cynnig dehongliad o natur gwleidyddiaeth ryngwladol. Yn ystod y cyfnod hwn, cwestiwn canolog fu’n gyrru trafodaethau ymhlith meddylwyr realaidd fu: pam fod gwrthdaro, trais a rhyfela wedi bod yn nodweddion mor gyson o’r ymwneud rhwng gwladwriaethau ar y llwyfan rhyngwladol. Yn wir, o’r safbwynt Realaidd, saif y cwestiwn hwn uwchlaw pob ystyriaeth arall wrth drafod gwleidyddiaeth rhyngwladol.

    Erbyn heddiw, fe wahaniaethir rhwng dwy ffrwd Realaidd gwahanol a ddatblygodd yn ystod yr ugeinfed ganrif:

    • • Realaeth Glasurol: Dyma safbwynt a gysylltir â’r blynyddoedd yn dilyn yr Ail Ryfel Byd a gwaith meddylwyr megis Reinhold Niebuhr a Hans Morganthau. Yn nhyb y meddylwyr hyn, gellid dehongli tueddiadau gwleidyddol rhyngwladol – ac yn benodol y duedd tuag at drais a gwrthdaro – fel symptomau o natur ffaeledig y bersonoliaeth ddynol – ein tuedd tuag at ymddygiad hunanol a’n dyhead parhaol am rym a statws. O ganlyniad i’r tueddiadau cynhenid hyn, tybiwyd ei bod yn anochel y bydd ymwneud gwladwriaethau â’i gilydd wastad yn cael ei yrru gan ystyriaethau hunanol. Golyga hyn mai’r flaenoriaeth bob tro fydd chwilio am gyfleoedd i ennill mantais dros eraill er mwyn dyrchafu’r ‘budd cenedlaethol’ – gyda’r angen i ennill mantais o ran grym milwrol yn sefyll uwchlaw popeth.

    •  Neo-realaeth: Dyma draddodiad Realaidd mwy diweddar a gaiff ei gysylltu yn bennaf â gwaith yr Americanwr, Kenneth Waltz. Yn wahanol i’r Realwyr Clasurol, ystyriai Waltz mai natur anarchaidd y system ryngwladol, yn hytrach na gwendidau cynhenid y natur ddynol oedd y ffactor creiddiol wrth geisio deall pam fod gwrthdaro a thrais yn themâu parhaol mewn gwleidyddiaeth ryngwladol. Ceir adlais yma o syniadau cynharach Thomas Hobbes, gyda’r system ryngwladol o wladwriaethau sofran yn cael ei gymharu â’r ‘cyflwr naturiol’ lle bo unigolion yn byw heb unrhyw awdurdod uwch i gadw trefn. Yn ôl Waltz, o ganlyniad i’r ffaith nad oes unrhyw gorff sofran yn sefyll uwchlaw gwladwriaethau’r byd, mae hi’n anochel y byddant yn chwilio am gyfleoedd i sicrhau eu diogelwch trwy ehangu ar eu galluoedd milwrol a bydd hyn yn ei dro yn cymell cystadleuaeth ac ansefydlogrwydd.
  • Margaret-thatcher.jpg
    Margaret Thatcher
  • Neo-geidwadaeth

    Mewn termau bras iawn, gellir dehongli'r safbwynt realaidd fel un oedd yn gymwys er mwyn esbonio’r gyfundrefn ryngwladol yn oes y Rhyfel Oer, a'r frwydr am oruchafiaeth rhwng Unol Daleithiau America a’r Undeb Sofietaidd. Yn y cyd-destun hwn roedd safbwynt a oedd yn canolbwyntio ar gysyniadau megis pŵer, gwrthdaro a chydbwysedd grym yn un a oedd yn gallu cynnig esboniadau rhesymol. Wrth gwrs, erbyn diwedd yr 20fed ganrif roedd yr Undeb Sofietaidd wedi chwalu a’r Unol daleithiau yn sefyll ar ben ei hun fel yr unig arch-bŵer byd-eang. Yn y cyd-destun hwn, fe ddaeth corff arall o syniadau Ceidwadol eu natur i ennill dylanwad, yn enwedig yn ystod cyfnod arlywyddiaeth y Gweriniaethwr, George W. Bush. Nodweddwyd ideoleg Gweriniaethwyr megis Bush gan safbwyntiau neo-geidwadol a oedd yn pwysleisio trefn, awdurdod a disgyblaeth ochr yn ochr â daliadau efengylaidd penodol. Dyma syniadau a seiliwyd ar waith athronwyr megis Leo Strauss a Carl Schmitt.

    Almaenwr oedd Strauss a symudodd i’r Unol Daleithiau fel nifer eraill yn ystod y blynyddoedd cyn yr Ail Ryfel Byd ac enillodd enwogrwydd fel aelod o ‘Ysgol Chicago’. Roedd Strauss yn feirniad hallt o ryddfrydiaeth a’i thuedd, yn ei dyb ef, i bwysleisio gwerthoedd sylfaenol, hollgyffredinol. Yn ganolog i’w syniadau ar wleidyddiaeth ryngwladol roedd cred yn yr angen am elyn allanol – un sydd wedi’i adnabod fel yr ‘arall’. Mae’r ‘arall’ hwn yn hollbwysig, yn nhyb Strauss, gan ei fod yn creu ffocws sy’n helpu i siapio hunaniaeth y genedl-wladwriaeth trwy gynnig endid allanol sy’n ymgorffori pob dim sy’n estron, yn wahanol ac yn beryglus. Trwy adnabod yr arall hwn, mae modd cadarnhau a phwysleisio’r hyn sy’n bwysig ac yn unigryw ynglŷn â’r genedl a thrwy hynny, cryfhau awdurdod, disgyblaeth a threfn ymysg y bobl.

    Cafodd rhai o’r syniadau hyn eu hymgorffori ym mholisi tramor George W. Bush, yn arbennig wedi ymosodiad terfysgol ar Ganolfan Masnach y Byd ar y 11eg o Fedi, 2001. Wedi’r ymosodiad hwn yn enw'r grŵp Al-Qaeda, aethpwyd ati i ddiffinio’r gelyn yn y ‘Rhyfel ar Derfysgaeth’ fel un a oedd yn gwbl wahanol ac eithriadol, ac un a oedd yn arddel gwerthoedd a oedd yn gwrthgyferbynnu’n llwyr â gwerthoedd a moesau'r gorllewin, ac UDA yn arbennig. Rhoddodd hyn gyfle i bwysleisio rhinweddau gwerthoedd ‘Americanaidd’ a chreu polisïau domestig a thramor oedd yn seiliedig ar y nod o ennill yn erbyn y gelyn terfysgol allanol. Cyfrannodd y polisïau hyn, ynghyd â’r rhethreg a ddefnyddiwyd i’w cyfiawnhau at greu amodau a oedd yn ymdebygu i’r hyn a ddisgrifiwyd gan Carl Schmitt fel y ‘cyflwr o eithriad’ – cyflwr gwleidyddol eithriadol lle bo’n dderbyniol i’r wladwriaeth roi gweithdrefnau cyfansoddiadol arferol o’r neilltu a defnyddio grym ym mha bynnag ffordd oedd ei angen er mwyn sicrhau diogelwch. O dan amodau eithriadol o’r fath, daeth yn bosib cymryd camau megis agor gwersyll dadleuol Bae Guantanemo – cam a fyddai wedi cael ei ystyried yn gwbl annerbyniol rai blynyddoedd yng nghynt.

    Neo-ryddfrydiaeth: globaleiddio, datblygu a Chydsyniad Washington

    Cysylltir y safbwynt neo-ryddfrydol gyda ffigurau Ceidwadol yr 1980au, yn arbennig Ronald Reagan, Arlywydd yr UDA, a Margaret Thatcher, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig. Rhoesant ar waith syniadau meddylwyr megis von Hayek a Friedman, oedd yn eu hanfod yn rhoi pwyslais ar bwysigrwydd ac effeithlonrwydd y farchnad rydd uwchlaw pob dim. Mynegir y gred yma trwy bolisïau a oedd yn lleihau dylanwad y wladwriaeth, gyda llai o gymorth i rai rhannau o’r economi, ac ymgais i ‘breifateiddio’ nifer o wasanaethau a oedd gynt yn nwylo’r llywodraeth. Y rhesymeg tu ôl i’r safbwynt hwn oedd y byddai’r gystadleuaeth sydd yn ganolog i weithrediad cyfalafiaeth yn sicrhau gwell gwasanaethau a hynny am gost ratach.

    Ar y gwastad rhyngwladol daeth agweddau neo-ryddfrydol o’r fath i gael eu mynegi’n fwy mynych a gyda mwy o arddeliad yn dilyn cwymp y Bloc Sofietaidd a’i system Gomiwnyddol wedi 1989. Arweiniodd hyn at ymlediad syniadau a pholisïau neo-ryddfrydol ar draws Dwyrain Ewrop. Yn ystod yr un cyfnod, gwelwyd gwledydd ar draws y Dwyrain pell yn symud i’r un cyfeiriad. At ei gilydd, ystyrir yr 1990au fel cyfnod lle’r oedd y farchnad rydd gyfalafol yn ymledu mewn modd mwy cynhwysfawr a phellgyrhaeddol nag mewn unrhyw gyfnod cynt – a lle'r oedd y byd yn ‘lleihau’ wrth i resymeg globaleiddio gymell gwladwriaethau i lacio eu ffiniau a chaniatáu mwy o weithgaredd economaidd rhyngwladol.

    Roedd y 1990au hefyd yn gyfnod pan welwyd sylw cynyddol yn cael ei roi i’r anghydraddoldeb a’r tlodi enbyd a oedd i’w weld ar draws y byd. Rhoddwyd pwyslais cynyddol ar yr angen i sicrhau bod gwledydd a fu cynt yn aelodau o’r Ymerodraethau Ewropeaidd mawr yn ‘ennill tir’ ac yn ‘dal fyny’ yn economaidd â gweddill y byd. O’r safbwynt neo-ryddfrydol cofleidio cyfalafiaeth farchnadol oedd yr unig ateb. Pe bai gwladwriaethau datblygol y byd – gan ddilyn esiampl gwledydd y bloc Sofietaidd – yn cofleidio’r farchnad rydd ac yn agor eu hunain i fuddsoddiad gan fusnesau tramor byddai datblygiad a llewyrch yn dilyn. Crisialwyd y syniadau hyn gan yr ymadrodd ‘Cydsyniad Washington’ – sef cred mewn cyfres o arferion polisi a gytunwyd arnynt gan sefydliadau rhyngwladol mawr y ddinas honno, megis Banc y Byd, y Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF) a hefyd Trysorlys y llywodraeth Americanaidd. Ymhlith yr arferion polisi hyn roedd pwyslais ar yr angen i ganiatáu busnesau tramor i ymsefydlu yn y gwledydd dan sylw, yr angen i ganiatáu buddsoddiad uniongyrchol o dramor, a hefyd yr angen i breifateiddio gwasanaethau a chyfyngu ar reolaeth y wladwriaeth ar yr economi.

    Erbyn dechrau'r mileniwm newydd roedd yna gydnabyddiaeth gynyddol o gyfyngderau'r cydsyniad Washington – yn benodol y manteision amlwg a ddaw i'r economïau cryfach, mwy datblygedig, a'r rhwystrau yn wynebu gwledydd llai datblygedig. O ganlyniad, pwysleisiwyd gan nifer, megis Joseph Stiglitz, yr angen i ymyrryd ac ailstrwythuro fframwaith yr economi rhyngwladol mewn modd mwy cytbwys, tra bod consensws wedi datblygu yn ogystal am yr angen i sicrhau strwythurau ac arferion llywodraethol mwy effeithiol o fewn gwledydd datblygedig.