Yr ail fater pwysig sy’n destun anghydweld sylweddol rhwng gwahanol draddodiadau sosialaidd yw’r union amcanion y dylid eu cyrchu – hynny yw, pa fath o gymdeithas y dylai’r un sosialaidd fod. Yn ei hanfod, mae’r anghydweld sy’n codi yn y cyswllt hwn yn deillio o syniadau gwahanol ynglŷn â sut i ymdrin â chyfalafiaeth: a ddylid ei ddymchwel ynteu’i ddiwygio?

  • Comiwnyddiaeth

    Ar y naill law, mae’r sosialwyr hynny sydd wedi glynu wrth ddehongliadau Marx a Lenin wedi mynnu mai dim ond trwy ddymchwel cyfalafiaeth yn llwyr a sefydlu cymdeithas gomiwnyddol amgen yn ei lle y gellir gobeithio sicrhau cyfiawnder a chydraddoldeb cymdeithasol.

    Ar y cyfan, digon bras yw’r manylion a geir gan Marx ei hun ynglŷn ag union natur y gymdeithas gomiwnyddol. Fodd bynnag, mae rhai pwyntiau pendant yn cael eu gwneud ganddo. I ddechrau, cam cwbl sylfaenol yn ei dyb ef yw sefydlu unbennaeth y proletariat yn gynnar yn ystod y chwyldro. Golyga hyn fod y dosbarth gweithiol yn cipio grym iddyn nhw’u hunain. Yn nhyb Marx, bydd angen unbennaeth o’r fath yn ystod y cyfnod cynnar er mwyn sicrhau nad yw’r bourgeoisie yn ad-drefnu gan danseilio’r chwyldro a hefyd er mwyn sicrhau bod y broses o sefydlu comiwnyddiaeth yn mynd rhagddo’n llwyddiannus. Wrth fynd ati wedyn i sefydlu comiwnyddiaeth, un o’r camau allweddol hollbwysig fyddai dileu perchnogaeth breifat o’r moddion cynhyrchu – hynny yw, yr adnoddau economaidd hynny a fu gynt yn eiddo i’r bourgeoisie ac yn sail i’w grym. Yn hytrach na pharhau fel asedau preifat i gyfalafwyr unigol, bydd yr adnoddau hyn yn cael eu trosglwyddo i fod yn eiddo cyffredin i’r gymdeithas gyfan. Trwy wneud hynny, gellir sicrhau bod y broses o gynhyrchu a dosbarthu nwyddau yn troi o fod yn un sy’n seiliedig ar y nod o wneud elw i unigolion i fod yn un sy’n anelu at ateb gwir anghenion cymdeithasol. Wrth i’r broses hon fynd rhagddi, tybiai Marx y byddai’r gwahaniaethau dosbarth a nodweddai’r gymdeithas gyfalafol yn diflannu’n raddol ac, yn y pen draw, y byddai’r angen am wladwriaeth hefyd yn diflannu.

    Fodd bynnag, profodd comiwnyddiaeth ymarferol, fel a ddatblygodd mewn mannau fel yr Undeb Sofietaidd, dwyrain Ewrop, China a Cuba yn ystod yr ugeinfed ganrif, yn bur wahanol i’r hyn a gafodd ei ragweld gan Marx ac Engels ddegawdau ynghynt. I raddau helaeth, deilliodd hyn o’r ffaith na welwyd pleidiau comiwnyddol yn cipio grym yng ngwladwriaethau trwyadl cyfalafol, datblygedig gorllewin Ewrop, fel y tybiodd Marx. Yn hytrach, fe ddigwyddodd mewn gwledydd llawer llai datblygedig, ble roedd rhannau helaeth o’r boblogaeth yn parhau i fyw bywyd mewn ardaloedd gwledig iawn – megis Rwsia (oedd serch hynny â nifer o ganolfannau diwydiannol mawrion lle’r oedd sosialaeth yn cydio), ac yn arbennig China. Nid oedd yn y mannau hyn ddosbarth gweithiol torfol cryf oedd yn wleidyddol hunanymwybodol ac yn barod i herio’r drefn yn y modd roedd Marx yn rhagdybio. Yn sgil hynny, ni ddatblygodd y mudiadau chwyldroadol ar hyd yr union linellau a ddychmygwyd.

    Yn achos Rwsia, ymgyrch a gafodd ei arwain gan garfan cymharol fach o radicaliaid ymroddedig oedd y chwyldroad comiwnyddol a welwyd. Cafodd hyn effaith maes o law ar natur y cyfundrefnau llywodraethol a gafodd eu sefydlu. Pan fu i’r Bolsieficiaid gipio grym yn Rwsia yn 1917, dan arweiniad Lenin, fe wnaed hynny gan hawlio eu bod yn gweithredu yn enw buddiannau’r dosbarth gweithiol. O ganlyniad, casglwyd bod unrhyw garfan wleidyddol a oedd yn eu gwrthwynebu yn cynrychioli safbwyntiau a buddiannau dosbarthiadau eraill – yn arbennig y bourgeoisie – ac felly er mwyn gwarchod enillion y chwyldro, rhaid oedd gwahardd ac atal pob plaid heblaw’r Blaid Gomiwnyddol. Erbyn 1920 , felly, roedd yr Undeb Sofietaidd wedi datblygu i fod yn gyfundrefn un-blaid, dotalitaraidd ble dim ond un corff penodol – pwyllgor canolog y Blaid Gomiwnyddol – oedd yn meddu ar yr hawl i leisio beth oedd buddiannau’r dosbarth gweithiol a sut felly y dylid parhau â’r gwaith o roi comiwnyddiaeth ar waith. Golyga hyn bod y profiad ymarferol o gomiwnyddiaeth yn ystod yr ugeinfed ganrif wedi’i nodweddu gan amgylchiadau llawer mwy cul a chaeth na’r disgwyliadau rhyddfreiniol a gafodd eu mynegi gan Marx.

  • Friedrich-Engels.jpg
    Friedrich Engels
  • Diwygio a ffrwyno cyfalafiaeth

    Tra bo nifer o ddilynwyr Marx wedi parhau i fynnu bod cyfalafiaeth yn gyfundrefn sy’n meddu ar wendidau sylfaenol, ac felly y tu hwnt i’w hachub, mae’r sosialwyr mwy graddol hynny sydd wedi gogwyddo tuag at y traddodiad democrataidd cymdeithasol wedi mabwysiadu safbwynt mwy cymedrol. Yn ei hanfod dyma safbwynt sy’n seiliedig ar geisio dofi a ffrwyno cyfalafiaeth, yn hytrach na’i ddymchwel yn llwyr. Tynnwyd sylw eisoes at rai o’r camau y cred democratiaid cymdeithasol y gellir eu cymryd er mwyn cyflawni hyn (gweler adran 3). I grynhoi eto, maent yn cynnwys y canlynol:

    • • Yr Economi Cymysg: Dyma drefniant economaidd sy’n sefyll hanner ffordd rhwng cyfalafiaeth farchnadol cwbl rydd a pherchnogaeth gyhoeddus ar bob agwedd o’r economi. Mae democratiaid cymdeithasol wedi tueddu i gydnabod bod gan y farchnad rydd ei lle. O ganlyniad, dadleuwyd y dylid cyfyngu mesurau sy’n sefydlu perchnogaeth gyhoeddus i feysydd penodol – uchelfannau’r economi fel trydan, glo, dur a’r rheilffyrdd – tra bo gweddill yr economi yn parhau mewn perchnogaeth breifat.

    •  Rheoli Economaidd: Tra bo democratiaid cymdeithasol yn derbyn bod gan gyfalafiaeth ei rinweddau, maent hefyd yn gweld bod angen ei reoleiddio er mwyn sicrhau twf economaidd cyson a gwarchod rhag cyfnodau o ddiweithdra neu chwyddiant sydyn. Golyga hyn bod democratiaid cymdeithasol fel rhyddfrydwyr modern wedi dadlau o blaid polisïau macro-economaidd Keynesaidd sy’n defnyddio gwariant cyhoeddus a threthiant er mwyn rheoleiddio cyfalafiaeth.

    • • Gwladwriaeth Les: Dyma’r dull a ffafrir gan ddemocratiaid cymdeithasol er mwyn ceisio dofi’r anghyfartaledd a all godi o dan gyfalafiaeth. Trwy’r wladwriaeth les – sefydliadau fel y drefn addysg, y gwasanaeth iechyd, y drefn fudd-daliadau – gall y wladwriaeth ailddosbarthu cyfoeth a chyfleoedd, gan geisio sicrhau mwy o gydraddoldeb ar draws cymdeithas a lleihau tlodi.

    At ei gilydd, rhaglen wleidyddol ac economaidd mwy cymedrol sydd wedi nodweddu’r traddodiad democrataidd cymdeithasol, fel un sy’n fwy parod i gydnabod bod cyfalafiaeth yn gyfundrefn sy’n meddu ar rai rhinweddau, ac yn sgil hynny y dylid rhoi’r pwyslais ar ffrwyno ei agweddau mwy niweidiol yn hytrach na’i ddymchwel yn llwyr. Golyga hyn felly gydbwyso mesurau sy’n sefydlu rheolaeth gyffredin dros rai rhannau o’r economi gyda darpariaethau sy’n gwarantu rôl sicr i berchnogaeth a masnachu preifat hefyd.