Ar y cyfan, y farn ymhlith ysgolheigion yw mai ideoleg wleidyddol a ddatblygodd yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg yw sosialaeth. Fodd bynnag, gellir olrhain gwreiddiau’r syniadaeth yn ôl ymhell cyn hynny. Er enghraifft, yn nhyb rhai, gwelir syniadau o anian sosialaidd ar waith yn nisgrifiad y Testament Newydd o fywyd y Cristnogion cynnar. Mae eraill yn tynnu sylw at ddadleuon o natur sosialaidd yng ngwaith meddylwyr fel Thomas More (1478-1535) neu hyd yn oed Platon (428-347 C.C.). Eto i gyd, er bod cydnabod y cefndir hwn yn bwysig, ni ellir hawlio bod corff cydlynol a hunanymwybodol o syniadau sosialaidd i’w ganfod yn y gweithiau cynnar hyn – yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg y daeth hyn i’r amlwg. Yn nhyb yr athronydd gwleidyddol, Andrew Vincent (Vincent 1995: 88), gellir cyfeirio at ddau ddigwyddiad pwysig a gyfrannodd at ddatblygu syniadau sosialaidd yn ystod y cyfnod hwn: y Chwyldro Ffrengig a’r Chwyldro Diwydiannol.

  • Arweiniodd y Chwyldro Ffrengig yn 1789 at ddymchwel yr hen drefn frenhinol absoliwt a sefydlu yn ei lle weriniaeth newydd oedd yn seiliedig ar egwyddorion blaengar, fel rhyddid, cydraddoldeb a brawdoliaeth (liberté, égalité, fraternité). Yn achos Sosialaeth, tybir bod arwyddocâd y Chwyldro yn Ffrainc yn deillio o’r ffaith iddo ddangos bod modd i bobl geisio trawsnewid cymdeithas er gwell: bod modd mynd ati trwy gyfrwng gweithgaredd cymdeithasol a gwleidyddol radicalaidd i ddileu hen sefydliadau a threfniadau ac yn eu lle adeiladu cymdeithas fwy teg a chyfartal. Ymhellach, gellir dadlau bod y mudiad Jacobin a oedd yn cael ei ysbrydoli gan waith athronwyr fel Jean-Jacques Rousseau a Gabriel Bonnot de Mably wedi dechrau rhoi mynegiant i ddadleuon a fyddai’n datblygu i fod yn rhai allweddol ymhlith sosialwyr. Er enghraifft, roedd y Jacobiniaid yn feirniadol iawn o oblygiadau perchnogaeth breifat ar eiddo a’r modd yr oedd cyfoeth wedi cael ei gronni yn nwylo lleiafrif bach ac ar sail hyn dadleuwyd o blaid mesurau a fyddai’n hwyluso ailddosbarthu tir, cydberchnogaeth a chyd-gynhyrchu.

    Ochr yn ochr â’r digwyddiadau yn Ffrainc yn ystod yr 1790au, gellid ystyried y Chwyldro Diwydiannol, a’r modd yr arweiniodd at greu’r economi cyfalafol modern, fel sbardun pellach (ac o bosib pwysicach) i ddatblygiad syniadau sosialaidd. O’i gychwyn ym Mhrydain yn ystod ail hanner y ddeunawfed ganrif, arweiniodd y Chwyldro Diwydiannol at newidiadau cymdeithasol ac economaidd sylfaenol ar draws Ewrop. Am y tro cyntaf, datblygwyd diwydiannau mawrion a gwelwyd symudiad poblogaeth anferthol o’r wlad i’r dref. Fodd bynnag, esgorodd newidiadau o’r fath ar amgylchiadau byw a gwaith anodd dros ben i aelodau’r dosbarth gweithiol newydd. Golygai polisïau economaidd laissez-faire y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fod gan gyflogwyr y rhyddid i osod cyflogau ac i drefnu amodau gwaith fel y mynnent. O ganlyniad, tueddai cyflogau i fod yn isel. Ar ben hynny, tueddai’r diwrnod gwaith i fod yn hir iawn (hyd at 12 awr), roedd defnyddio plant yn y gweithle’n gyffredin ac roedd perygl anafiadau a diweithdra’n gysgodion parhaol. Dros amser, arweiniodd y caledi a’r tlodi enbyd a oedd yn nodweddu bywyd y dosbarth gweithiol at amheuaeth gynyddol o rinweddau’r gymdeithas gyfalafol fodern. O ganlyniad, erbyn y 1820au a’r 1830au roedd amryw o feddylwyr gwleidyddol – hynny yw, y sosialwyr cynnar – yn dechrau meddwl am ffyrdd amgen o drefnu cymdeithas a’r economi.