Mae tybiaethau cenedlaetholgar yn gwbl ganolog i weithrediad gwleidyddiaeth fyd-eang. Amlygir hyn gan y ffaith fod gennym bellach system ryngwladol sy’n seiliedig ar gyfres o genedl-wladwriaethau sofran sy’n ymwneud â’i gilydd. Wrth gwrs, datblygiad lled-ddiweddar fu ymlediad y drefn yma o genedl-wladwriaethau i bedwar ban byd. Tra bod gwreiddiau cynnar y broses yn ymestyn yn ôl i’r Oesoedd Canol, rhaid cofio bod y genedl-wladwriaeth yn parhau’n ddieithr iawn
    mewn sawl rhan o’r byd, hyd yn oed mor ddiweddar â degawdau cyntaf yr ugeinfed ganrif. Fodd bynnag, erbyn heddiw gellir dadlau’n hyderus mai dyma yw’r ffurf wleidyddol arferol ar draws y byd.

  • Ymddygiad cenedl-wladwriaethau

    Mae datblygiad y gyfundrefn ryngwladol o genedl-wladwriaethau sofran yn brawf clir o’r modd y mae syniadau cenedlaetholgar wedi siapio ein byd cyfoes. Fodd bynnag, ymhlith yr ysgolheigion hynny sy’n astudio gwleidyddiaeth ryngwladol fe geir dehongliadau gwahanol o’r modd y mae’r unedau cenedlaethol hyn yn ymwneud â’i gilydd, ac yn benodol pa mor barod ydynt i gydweithio a rhannu adnoddau.
    Ar y naill law, mae’r sawl sy’n arddel y safbwynt Realaidd ar wleidyddiaeth ryngwladol yn mynnu mai unedau mewnblyg yw cenedl-wladwriaethau yn eu hanfod, rhai a fydd wastad yn gosod hunan-fudd uwchlaw unrhyw ystyriaeth arall. O’r safbwynt hwn, bydd unrhyw gydweithio rhwng gwladwriaethau gwahanol ond yn bosib os fydd pob partner yn tybio eu bod yn elwa mewn modd ystyrlon o’r broses. Deillia’r dadleuon hyn o gred sylfaenol y Realwyr fod y gyfundrefn ryngwladol yn un ansefydlog o ran ei natur a’i fod felly yn hybu cystadleuaeth ymhlith gwladwriaethau ac yn eu cymell i osod diogelwch a hunan-fudd cenedlaethol uwchlaw popeth arall.

    Mae ysgolheigion eraill wedi herio’r safbwynt Realaidd traddodiadol, gan fynnu bod cenedl-wladwriaethau yn medru ymddwyn mewn modd moesegol sy’n cydnabod anghenion gwladwriaethau eraill hefyd. Mynnir felly nad dim ond ystyried diogelwch a budd ei dinasyddion ei hun a wna’r genedl-wladwriaeth wrth weithredu ar y llwyfan rhyngwladol. Yn wir, mae’r safbwynt hwn yn un sy’n tybio bod pwyslais ar fuddiannau cenedlaethol yn medru cael ei gydbwyso gydag ystyriaethau cosmopolitaniaid sy’n cydnabod bod y genedl-wladwriaeth yn aelod o gymdeithas ryngwladol ehangach. Yn yr un modd, mae’n safbwynt sy’n cydnabod bod ymlyniad person i gyd-aelodau ei genedl yn bwysig, ond ar yr un pryd, bod ganddo ef neu hi ddyletswydd arwyddocaol tuag at unigolion eraill ar draws y byd.

    Mae’r safbwyntiau uchod yn medru arwain at syniadau gwahanol ynglŷn â’r graddau y dylai cenedl-wladwriaethau fedru gweithredu’n rhydd o ymyrraeth eraill o fewn y system rhyngwladol. I’r Realydd, dylai gwladwriaethau ymatal yn llwyr rhag ymyrryd ym materion mewnol gwladwriaethau eraill, cyhyd ag y bo dim bygythiad i’w hunan-fudd hwy. Fodd bynnag, yn nhyb y sawl sy’n arddel safbwyntiau mwy cydweithredol, bydd gwladwriaeth yn aberthu ei hawl i sofraniaeth allanol os bydd yn gweithredu mewn modd sy’n sathru ar hawliau sylfaenol ei dinasyddion. Yn yr un modd, o dan y fath amgylchiadau bydd dyletswydd ar wladwriaethau eraill i gymryd camau er mwyn ceisio gwella ymddygiad y wladwriaeth sy’n tramgwyddo.

  • Gwrthodiad Cenedlaetholdeb

    Fe geir ystod o draddodiadau syniadaethol pwysig sydd, mewn gwahanol ffyrdd, wedi cwestiynu rhai o egwyddorion sylfaenol cenedlaetholdeb ac wedi herio’r dybiaeth mai cenedl-wladwriaethau yw’r unedau addas ar gyfer trefnu’r gymdeithas ryngwladol.

    I ddechrau, mae anarchwyr wedi herio goruchafiaeth y genedl-wladwriaeth ar sail y gred eu bod yn unedau rhy fawr ac sydd yn canoli grym yn ormodol a thrwy hynny yn creu gwleidyddion llwgr. Tueddant i ffafrio systemau gwleidyddol ffederal a fydd yn caniatáu i rym orwedd ar lefel leol iawn a lle bydd yna gydbwysedd grym rhwng gwahanol unedau. Cysylltir y traddodiad yma’n aml â syniadau ffigurau megis Pierre-Joseph Proudhon a Mikhail Bakunin.

    Mae amheuaeth Marcswyr o’r genedl-wladwriaeth fodern yn deillio o’u cred mai cynnyrch y drefn gyfalafol ydyw ac felly ei fod yn ffurf wleidyddol a fydd wastad yn gwarchod buddiannau’r cyfalafwyr ar draul y dosbarth gweithiol. O ganlyniad, bu’r angen i ddymchwel y wladwriaeth yn thema gyson mewn gwaith Marcsaidd a hefyd yr angen i sefydlu ymdeimlad rhyngwladol o undod ymhlith y dosbarth gweithiol a fyddai’n codi uwchlaw gwahaniaethau cenedlaethol. Wrth gwrs tanseiliwyd y weledigaeth hon, i raddau helaeth, gan y cyfundrefnau Comiwnyddol a sefydlwyd yn ystod yr ugeinfed ganrif. Systemau totalitaraidd oedd y rhain mewn gwirionedd lle bu i rym y wladwriaeth gael ei dynhau yn hytrach na diflannu. Er hynny, gellir dadlau bod y gwledydd comiwnyddol, o dan arweiniad yr Undeb Sofietaidd, wedi arddel cydweithrediad pellgyrhaeddol ar draws ffiniau.

    Un traddodiad pwysig arall sydd wedi herio’r syniad y dylai’r genedl-wladwriaeth fod yn ganolog i weithrediad y gyfundrefn ryngwladol yw Cosmopolitaniaeth. Dyma draddodiad sy’n deillio’n wreiddiol o syniadau meddylwyr megis Immanuel Kant a Richard Price, ill dau wedi dadlau o blaid yr angen i symud tu hwnt i’r syniad o genedl-wladwriaethau sofran tuag at system ffederal fyd-eang. Yn ystod yr ugeinfed ganrif mae meddylwyr megis Charles Beitz wedi datblygu dadleuon cosmopolitan sy’n seiliedig ar egwyddorion megis rhyddid, cydraddoldeb a hawliau’r unigolyn, er mwyn herio’r syniad o fyd sydd wedi'i rannu’n gyfres o genedl-wladwriaethau sofran. Mae Beitz yn ein hannog i drin cyfiawnder fel ystyriaeth gwirioneddol ryngwladol, yn hytrach na rhywbeth sy’n cael ei drafod a’i fesur o fewn cenedl-wladwriaethau unigol. Ymhellach dadleua o blaid polisïau pellgyrhaeddol a fyddai’n arwain at ailddosbarthu adnoddau a chyfoeth ar draws ffiniau gwladwriaethau. Tra nad yw’r dadleuon hyn yn rhai sy’n galw’n benodol am ddiddymu’r genedl-wladwriaeth, maent yn sicr yn rhai sydd am weld ei rym yn cael ei gyfyngu’n sylweddol, er mwyn i ystyriaethau cyfanfydol megis lles yr amgylchedd a thlodi rhyngwladol fedru derbyn mwy o sylw.